Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r
cyfarfod. 1.2
Cyhoeddodd y Cadeirydd fod Alun Davies a Gwenda Thomas
wedi’u hethol i’r Pwyllgor hwn 1.3
Diolchodd y Cadeirydd i Leighton Andrews a Jenny Rathbone
am eu gwaith a’u cyfraniad i’r Pwyllgor hwn. 1.4
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas ac
Alun Davies. |
||
(9.15 - 10.30) |
Y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth 4 (y trydydd sector) Eleri
Butler MBE, Prif Weithredwr, Cymorth i Fenywod Cymru Mwenya
Chimba, Cyfarwyddwr, Trais yn Erbyn Menywod, Black Association of Women Step
Out Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan: Eleri
Butler, Prif Weithredwr, Cymorth i Fenywod; Mwenya
Chimba, Cyfarwyddwr, Trais yn erbyn Menywod, BAWSO; Cathy
Owens, Grŵp Gweithredu Trais yn erbyn Menywod. ·
Cytunodd Cymorth i Fenywod i ddarparu rhagor o wybodaeth
i’r Pwyllgor am ddangosyddion perfformiad y dylid eu defnyddio, ym marn y
mudiad, i fesur cynnydd tuag at gyflawni amcanion y Ddeddf |
|
(10.40 - 11.55) |
Y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth 5 (y trydydd sector) Frances
Beecher, Prif Swyddog Gweithredol, Llamau Bernie
Bowen-Thomson, Dirprwy Brif Weithredwr, Cymru Ddiogelach Gwilym
Roberts, Prif Swyddog Gweithredol, Relate Cymru Johanna
Robinson, Rheolwr Datblygu Cenedlaethol Cymru, Ymddiriedolaeth Goroeswyr Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan: Frances
Beecher, Prif Swyddog Gweithredol, Llamau; Bernadette
Bowen-Thomson, Dirprwy Brif Weithredwr, Cymru Ddiogelach; Gwilym
Roberts, Prif Weithredwr, Relate Cymru; Johanna
Robinson, Rheolwr Datblygu Cenedlaethol Cymru, Ymddiriedolaeth Goroeswyr Cymru. ·
Cytunodd Relate i ddarparu copi o’r adroddiad
‘Young People, Sex and Relationships: The New Norms’ a gyhoeddwyd gan Relate
a’r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus. ·
Cytunodd Ymddiriedolaeth Goroeswyr Cymru i
ddarparu rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor am ddangosyddion perfformiad y dylid
eu defnyddio, ym marn y mudiad, i fesur cynnydd tuag at gyflawni amcanion y
Ddeddf |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor y papurau. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitemau 6 a 7 ac Eitem 1 ar 1 Hydref 2014 Cofnodion: 5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y
cynnig. |
||
(11.55 - 12.00) |
Y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) - trafod y dystiolaeth o sesiynnau 4 a 5 Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |
|
(12:00-12:30) |
Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Trafod adroddiad drafft Cyfnod 1 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor yr
adroddiad drafft Cyfnod 1. |