Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

(09.15-10.15)

2.

Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

John Griffiths AM, Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Huw Brodie, Cyfarwyddwr Diwylliant a Chwaraeon
Jon Westlake, Pennaeth Yr Is-Adran Chwaraeon, Hamdden Awyr Agored a Thirweddau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan John Griffiths AC, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, a'i swyddogion.

 

2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog a'i swyddogion i'r canlynol:

  • darparu ffigurau yn dangos y cynnydd o ran nifer yr ymwelwyr â henebion Cadw ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn hon;
  • darparu manylion am y gwaith a wnaed gan Cadw hyd yma i leihau ei ôl troed carbon a biliau cyfleustodau; 
  • darparu copi o ymateb y Cyngor Celfyddydau i'r llythyr cylch gwaith 2014-15 gan y Gweinidog;
  • trafod gyda'r Gweinidog Addysg a Sgiliau bod angen i awdurdodau lleol sicrhau bod cysylltiad rhwng ysgolion a llyfrgelloedd yn eu hardaloedd, ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor;
  • darparu'r ffigurau ar gyfer buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn amgueddfeydd y tu allan i Gaerdydd;
  • rhannu manylion am yr ymchwil a wnaed mewn perthynas â risgiau iechyd ar gyfer oedolion eisteddog mewn gwahanol grwpiau economaidd-gymdeithasol;
  • trefnu bod y Pwyllgor yn cael nodyn ar y mater o sicrhau bod y fenter 'Llyfrau Llafar Cymru' yn hyfyw yn y dyfodol;
  • darparu nodyn ar effaith dod â'r Gronfa Radio Cymunedol i ben;
  • darparu nodyn ar effaith y gostyngiad yn y cyllid a ddarperir i Gyngor Llyfrau Cymru.

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 9 Gorffennaf 2014

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig.

 

(10.15 - 10.30)

4.

Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan John Griffiths AC, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, a'i swyddogion.

 

(10.30-10.45)

5.

Trafod cwmpas gwaith craffu Cyfnod 1 Bil Cam-drin Domestig, Trais ar Sail Rhywedd a Thrais Rhywiol (Cymru)

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor cwmpas ei waith a'i ddull gweithredu mewn perthynas â chraffu ar y Bil Cam-drin Domestig, Trais ar Sail Rhywedd a Thrais Rhywiol (Cymru) yng Nghyfnod 1

(10.45-11.00)

6.

Trafod y flaenraglen waith a sut i ymdrin â'r gwaith craffu ar y Gyllideb Ddrafft.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith a sut i ymdrin â'r gwaith craffu ar y Gyllideb Ddrafft