Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
a'r cyhoedd i'r cyfarfod. |
||
(10.15 - 11.30) |
Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 – Sesiwn dystiolaeth 2 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Simon Wilkinson, Swyddog Polisi Gwasanaethau Rheoleiddio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Y Cynghorydd Philip Evans Nick Jones, Rheolwr Gorfodi Tai a'r Amgylchedd Cyngor Gwynedd Gareth Jones, Uwch-reolwr y Gwasanaeth Cynllunio a’r Amgylchedd Cyngor Sir Penfro Samantha Hancock, Uwch-swyddog Iechyd yr Amgylchedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan
Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor
Gwynedd a Chyngor Sir Penfro. Yn ystod y sesiwn, cytunodd Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu tystiolaeth ar gwynion a wnaed i unrhyw un
o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ynghylch pobl yn camddefnyddio carafannau
gwyliau drwy breswylio ynddynt. Yn ogystal, gofynnodd y Pwyllgor i weld
y dystiolaeth o gamddefnyddio carafannau gwyliau a gasglwyd gan Gyngor
Bwrdeistref Sirol Conwy yn 2007 ar gyfer ei arolwg o'r boblogaeth symudol, y
cyfeiriwyd ato yn ystod y sesiwn, ac unrhyw dystiolaeth o gamddefnyddio dilynol
i'r astudiaeth hon. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd yr Aelodau'r ohebiaeth gan
Darren Millar. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: eitemau 5 a 6 Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(11.30 - 11.45) |
Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 - trafod sesiwn dystiolaeth 2 Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a
gafwyd yn sesiwn 2 ar y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru). |
|
(11.45 - 12.00) |
Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor Cofnodion: 6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei
flaenraglen waith. |