Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhodri Glyn Thomas.

 

(9:15-10:15)

2.

Ymchwiliad i Lyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru. Sesiwn Dystiolaeth 1 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dr Chris Llewelyn, Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth

Peter Gomer, Cynghorydd Polisi, Hamdden, Diwylliant a Threftadaeth

Richard Hughes, Cynghorydd CLlLC a Phennaeth dros dro Byw’n Iach, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

2.2 Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu:

 

·        ystadegau ynghylch y defnydd o wasanaethau llyfrgell digidol a dadansoddiad o oedran defnyddwyr;

·        gwybodaeth am y rhaglen Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli, o ran y defnydd o lyfrgelloedd prifysgolion a sut y gellir gwella mynediad.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am ddogfen friffio cyfreithiol ynghylch statws y canllawiau (Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru) a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964 (hynny yw, ai canllawiau statudol neu wirfoddol yw'r rhain).

 

 

(10:30-11:30)

3.

Ymchwiliad i Lyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru. Sesiwn Dystiolaeth 2 - Sefydliad Siartredig Gweithwyr Proffesiynol Llyfrgell a Gwybodaeth

Carol Edwards, Cadeirydd Sefydliad Siartredig y Gweithwyr Llyfrgell a Gwybodaeth Proffesiynol Cymru

Mandy Powell, Swyddog Polisi, Sefydliad Siartredig y Gweithwyr Llyfrgell a Gwybodaeth Proffesiynol Cymru

Jane Sellwood, yn cynrychioli Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Sefydliad Siartredig Gweithwyr Proffesiynol Llyfrgell a Gwybodaeth.

 

Cytunodd y Sefydliad i ddarparu gwybodaeth am:

 

·        niferoedd defnyddwyr/ymwelwyr llyfrgelloedd ym mhob awdurdod lleol;

·        Deddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964 a'i darpariaethau;

·        pa un a oedd modd defnyddio'r System Rheoli Llyfrgelloedd dros y ffin.

 

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 5

(11:30-12:30)

5.

Y Bil Tai (Cymru): Trafod y materion allweddol

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol.

 

6.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol: