Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

(09:15-10:30)

2.

Bil Tai (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn Dystiolaeth 2 Sefydliad Tai Siartredig Cymru

Keith Edwards, Cyfarwyddwr

Anne Delaney, Aelod o'r Bwrdd ac Arweinydd Polisi

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y pwyllgor dystiolaeth gan  y Sefydliad Tai Siartredig Cymru.

(10:45-12:00)

3.

Bil Tai (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn Dystiolaeth 3 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Y Cynghorydd Dyfed Edwards,  Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Dai, ac Arweinydd Cyngor Gwynedd

Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

Sue Finch, Swyddog Polisi Tai

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y pwyllgor dystiolaeth gan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

3.2 Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i wneud y canlynol:

 

  • Darparu nodyn ynghylch a fyddai modd defnyddio cofnod o Fudd-daliadau Tai i ganfod landlordiaid yn y sector rhentu preifat, ac, os felly, sut byddai gwneud hynny.
  • Darparu nodyn ar sut y gellid gweithredu, yn ymarferol, yr adolygiad o anghenion a chynllunio strategol, o ran gwasanaethau digartrefedd, yng Nghynllun Integredig Sengl awdurdodau lleol.
  • Ymateb i'r pryder a godwyd gan Aelod bod awdurdod lleol yng ngogledd Cymru wedi cynnwys safleoedd preifat bach, gan gynnwys y rhai lle'r oedd caniatâd cynllunio eto i'w gytuno, yn ei asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr. Mae hynny wedi gorliwio faint o ddarpariaeth, o ran safleoedd, sydd ar gael ar hyn o bryd.
  • Ymateb i'r pryder bod gofyn i Sipsiwn a Theithwyr adael eu prif safleoedd am chwe wythnos bob blwyddyn a symud i safleoedd dros dro, a darparu nodyn ynghylch sut bydd awdurdodau lleol yn ystyried hynny wrth fodloni eu dyletswyddau o dan y Bil.

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 5

Cofnodion:

4.1 Cytunwyd y Cynnig.  

(12:00-12:30)

5.

Trafod adroddiad ynghylch ymchwiliad i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar: Ymchwiliad i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon.

6.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Papurau i’w nodi