Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(09:30-09:45) |
Blaenraglen waith y Pwyllgor Cofnodion: 1.1 Trafododd
y Pwyllgor ei flaenraglen waith. |
|
(09:45-10:00) |
Trafod yr adroddiad drafft: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Adroddiad Blynyddol 2012/13 Cofnodion: 2.1 Trafododd
y Pwyllgor y llythyr drafft. |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 3.1 Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 3.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Rhodri Glyn Thomas a Janet Finch-Saunders. |
||
(10:00-12:00) |
Bil Tai (Cymru) – Cyfnod 1 – ystyried yr egwyddorion cyffredinol Cofnodion: 4.1 Cafodd y
pwyllgor dystiolaeth gan Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio. 4.2 Cytunodd
y Gweinidog i ddarparu’r hyn a ganlyn: ·
gwybodaeth am y gwahaniaethau rhwng y
cynllun cofrestru a thrwyddedu cyfredol ar gyfer y sector rhentu preifat yn yr
Alban a’r cynllun arfaethedig yng Nghymru y darperir ar ei gyfer yn y Bil; ·
nodyn ar safonau diogelwch trydanol ar
gyfer y sector rhentu preifat i’w cynnwys yn y Cod Ymarfer y darperir ar ei
gyfer yn adran 28; ·
copi o’r adroddiad gan Brifysgol
Caerdydd (a oedd yn darparu tystiolaeth y dylai’r cyfnod o amser yr ystyrir bod
person o dan fygythiad o ddigartrefedd gael ei gynyddu i 56 diwrnod); ·
nodyn ar sut y byddai’r gost o orfodi’r
cynllun cofrestru a thrwyddedu arfaethedig yn cael ei thalu, yn sgîl y
dyfarniad gan y Llys Apêl ar achos Hemming ac eraill
yn erbyn Cyngor Dinas San Steffan; ·
eglurder ar ystyr ‘hyglwyf’ yn adran
55(1)(j) mewn perthynas â phobl sydd wedi bwrw dedfryd o garchar; ·
eglurder ar pam nad yw’r categori ar
gyfer angen blaenoriaethol yn adran 55(1)(c)(i) yn cyfeirio at salwch meddwl, o
ystyried ei fod wedi’i gynnwys yn y categorïau sydd eisoes yn bodoli a nodir yn
Neddf Tai 1996; ·
eglurder ar y gyfundrefn reoleiddio ac
arolygu bresennol ar gyfer hostelau digartrefedd; ·
eglurder ar ystyr cyfreithiol ac/neu
effaith y term ‘er enghraifft’ yn adran 55(1)(c)(i); ·
nodyn ar drefniadau dwyochrog rhwng
awdurdodau lleol ar gyfer rhoi llety i bobl ddigartref; a ·
dadansoddiad fesul awdurdod lleol o’r terfyn
benthyca sy’n ymwneud â thai i gynnwys benthyca sydd eisoes yn bodoli a’r
ddyled newydd i ariannu’r cam o adael y cynllun cymhorthdal cyfrif refeniw tai. 4.3 Gofynnodd
y Pwyllgor am wybodaeth gyfreithiol am y diffiniad o fod yn hyglwyf. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Papurau
i’w nodi. |