Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Sarah Beasley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd
yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
|
||
(09:15-10:45) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 - Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Jeff
Cuthbert AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Owain Lloyd, Pennaeth y Tîm Gweithrediadau Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr, Dyfodol Tecach Eleanor Marks, Dirpwy Cyfarwyddwr Adran Cymunediau Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y Pwyllgor
dystiolaeth gan Jeff Cuthbert, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi. 2.2 Cytunodd y Gweinidog i'r
hyn a ganlyn: ·
darparu gwybodaeth am
werthuso Dechrau'n Deg ac ystadegau cysylltiedig; ·
ysgrifennu at y
Pwyllgor ynghylch ymrwymiad y Gweinidog blaenorol i gyhoeddi dangosyddion
perfformiad ar gyfer y rhaglen Cymunedau'n Gyntaf; ·
darparu canllawiau
manwl am y dull gwerthuso a ddefnyddir i fonitro'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf; ·
gwybodaeth am y gwaith
o graffu ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a sut y caiff ei rheoli; ·
nodyn am y ffigurau
a'r asesiad cyffredinol o effaith y gyllideb ar y trydydd sector; ·
nodyn ar y camau y
mae'r Gweinidog yn bwriadu eu cymryd o ran yr undebau credyd ar ôl i'r achos
busnes gael ei ddadansoddi; ·
nodyn ar werthuso'r
canlyniadau o safbwynt gwerth am arian mewn perthynas â sefydliadau sy'n
llwyddo i gael cyllid cyfalaf i gymunedau; ·
nodyn yn manylu a fydd
cyllid cyfalaf ar gael i safleoedd tramwy. |
|
(11:00-12:00) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 - Sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon John
Griffiths AC, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Huw Brodie,
Cyfarwyddwr, Diwylliant a Chwaraeon Huw Davies,
Pennaeth Cyllid, Diwylliant a Chwaraeon
Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cafodd y Pwyllgor
dystiolaeth gan John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon. 3.2 Cytunodd y Gweinidog i
ddarparu nodyn ar wariant ataliol uniongyrchol ac anuniongyrchol o ran rhai o'r
rhaglenni sydd o fewn ei adran. |
|
(12:00-12:45) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 - Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Cyllid Jane Hutt
AC, y Gweinidog Cyllid Jeff
Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Cafodd y Pwyllgor
dystiolaeth gan Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid. 4.2 Cytunodd y Gweinidog i
ddarparu'r papur a gyflwynwyd i grŵp cynghorol y gyllideb ar gydraddoldeb gan Caroline Joll, y cynghorwr
academaidd.
|
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: |