Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Sarah Beasley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, y tystion ac aelodau'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

(09.15 - 09.55)

2.

Ymchwiliad i’r rhwystrau i adeiladu cartrefi yng Nghymru - Sesiwn dystiolaeth 6

Y Cyngor Benthycwyr Morgeisi 

CELG(4)-24-13 – Papur 1

 

·         Paul Smee, Cyfarwyddwr Cyffredinol

·         Peter Hughes, Cadeirydd Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cyngor Benthycwyr Morgeisi.

 

2.2 Cytunodd y Cyngor i ddarparu nodiadau i'r Pwyllgor ar yr eitemau a ganlyn:

·         fforddiadwyedd morgeisi; a

·         benthyca i'r sector tai cymdeithasol.

 

 

 

 

(09.55 - 10.35)

3.

Ymchwiliad i’r rhwystrau i adeiladu cartrefi yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 7

Cartrefi Cymunedol Cymru
CELG(4)-24-13 – Papur 2

 

·         Gareth Davies, Pennaeth Datblygu, Cymdeithas Tai Unedig Cymru, a Chadeirydd Fforwm Gwasanaethau Technegol Cartrefi Cymunedol Cymru

·         Neil Barber, Cyfarwyddwr Datblygu, Grŵp Seren

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Cartrefi Cymunedol Cymru.

 

3.2 Cytunodd Cartrefi Cymunedol Cymru i ddarparu nodyn ar y rhwystrau i sicrhau caniatâd cynllunio ac ar yr amser y mae'r broses honno yn ei chymryd.

 

(10.45 - 11.45)

4.

Ymchwiliad i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon - Sesiwn dystiolaeth 9

Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru

CELG(4)-24-13 – Papur 3

 

·         Jonathan Ford, Prif Weithredwr, Cymdeithas Bêl-droed Cymru

·         Neil Ward, Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru

·         Llyr Roberts, Rheolwr Ymchwil a Gwerthuso, Cymdeithas Bêl-droed Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ac Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru.

 

4.2 Cytunodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddarparu linc i'w hadroddiad ar yr adolygiad o drefniadau llywodraethu pêl-droed Cymru.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Gweddill y cyfarfod hwn a dechrau’r cyfarfod a gynhelir ar 2 Hydref 2013.

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(11.45 - 12.15)

6.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor

CELG(4)-24-13 – Papur preifat 4

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.

 

7.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol: