Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones / Legislation: Helen Finlayson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ken Skates. Nid oedd unrhyw un yn dirprwyo ar ei ran. |
|
(09.30 - 10.15) |
Ymchwiliad i addasiadau yn y cartref - sesiwn dystiolaeth 14 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y materion a ganlyn: - Canllawiau Llywodraeth Cymru ar grantiau
cyfleusterau i’r anabl; - Canllawiau ynglŷn â ph’un ai yw profion
modd yn cael
eu gweithredu’n wahanol rhwng Awdurdodau
Lleol; - Y data a ddefnyddir wrth gyfrifo’r elfen tai yn y Cyllid Cyfalaf Cyffredinol. |
|
(10.25 - 11.30) |
Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - y Gweinidog Tai ac Adfywio Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar y Gweinidog Tai ac Adfywio a’i bortffolio. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r canlynol: -
Lle y bo’n briodol, y wybodaeth
ddiweddaraf am drafodaethau gyda Thrysorlys ei Mawrhydi ynglŷn â
gadael System Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai; -
Manylion cynllun i ddisodli’r
Cynllun NewBuy Cymru arfaethedig; -
Manylion penodol ar y Bil Tai ac
yn fwy cyffredinol y wybodaeth ddiweddaraf am gydrannau deddfwriaethol eraill
ym mhortffolio’r Pwyllgor. |
|
(11.30 - 11.35) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 4.1 Nodwyd y papurau. |
|
Ymchwiliad i addasiadau yn y cartref - Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru CELG(4)-11-13 – Papur 3 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth yn dilyn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth |
||
Trawsgrifiad Trawsgrifiad o’r Cyfarfod. |