Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones  / Legislation: Helen Finlayson

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, y tystion a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Lindsay Whittle. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.

 

(09.30 - 10.05)

2.

Ymchwiliad i addasiadau yn y cartref - sesiwn dystiolaeth 1

Coleg y Therapyddion Galwedigaethol
CELG(3)-07-13 – Papur 1

 

·         Ruth Crowder, Swyddog Polisi

·         Helene Mars – Cynrychiolydd Cymru, Adran Arbenigol Coleg y Therapyddion Galwedigaethol - Tai

·         Neil Abraham – Cadeirydd Grŵp Cynghori Therapyddion Galwedigaethol Cymru Gyfan (COTAG)

 

Dogfennau ategol:

(10.05 - 10.40)

3.

Ymchwiliad i addasiadau yn y cartref - sesiwn dystiolaeth 2

Penaethiaid Iechyd yr Amgylchedd Cymru – Panel Technegol Tai

CELG(3)-07-13 – Papur 2

 

·         Jonathan Willis, Rheolwr Tai, Cyngor Sir Caerfyrddin

·         Owain Roberts, Rheolwr Tai Sector Preifat, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

·         Julian Pike, Rheolwr Adnewyddu Tai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

·         Elen Probert, Prif Swyddog Tai, Cyngor Bro Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y tystion i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor ar y broses o fonitro’r Dangosydd Perfformiad ledled Cymru a sut y gellid gwella’r broses hon.

(10.40 - 11.15)

4.

Ymchwiliad i addasiadau yn y cartref - sesiwn dystiolaeth 3

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

CELG(4)-07-13 – Papur 3

 

·         Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu nodyn ar yr hyn y gellir ei wneud i fynd i’r afael ag anghysondebau rhwng daliadaethau ac a oes angen cyflwyno un system o addasiadau sy’n berthnasol ledled Cymru ac ar draws daliadaethau.

4.2 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu i’r Pwyllgor yr ohebiaeth a gafodd yr oedd yn cyfeirio ati yn ei phapur.

(11.15 - 11.50)

5.

Ymchwiliad i addasiadau yn y cartref - sesiwn dystiolaeth 4

Nigel Appleton, Academydd

CELG(4)-07-13 – Papur 4

 

Dogfennau ategol:

(11.50)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Cytunwyd ar y cynnig.

(11:50 - 12:00)

7.

Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru)

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 – ymateb drafft

 

Cofnodion:

7.1 Cytunodd yr Aelodau ar y llythyr drafft yn amodol ar un newid mân.