Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones  / Legislation: Bethan Davies

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Ken Skates a Rhodri Glyn Thomas. Bu Joycelyn Davies yn dirprwyo ar ran Rhodri Glyn Thomas.

(08.50 - 09.50)

2.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2013/14

Llywodraeth Cymru

CELG(4)-23-12 – Papur 1

 

Huw Lewis AC, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

John Howells, Cyfarwyddwr Tai, Adfwyio a Threftadaeth  
Kath Palmer, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r Gweinidog.

 

Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r eitemau a ganlyn:

 

Rhestr lawn o ddangosyddion perfformiad ar gyfer Chwaraeon Cymru;

 

Nodyn am pa dir sydd wedi cael ei ryddhau gan y Llywodraeth at ddibenion tai cyhoeddus ers yr etholiad;

 

Gwybodaeth am yr asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb a gynhaliwyd ar grantiau tai i bobl anabl;

 

Nodyn am faint o gyllid y mae pob awdurdod lleol yn ei gael a faint sy’n cael ei wario (gan gynnwys gwariant hanesyddol) ar grantiau cyfleusterau i’r anabl; ac

 

Atebion ysgrifenedig i’r cwestiynau nas gofynnwyd yn ystod y cyfarfod.

(09.50 - 10.30)

3.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2013/14

Llywodraeth Cymru

CELG(4)-23-12 – Papur 2

 

Leighton Andrews AC, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Carla Lyne, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol


Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r Gweinidog.

 

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 5 i 8b

Cofnodion:

Cytunwyd ar y cynnig.

(10.30 - 10.50)

5.

Ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru - ystyried yr adroddiad drafft

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau.

(10.50 - 11.00)

6.

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith. 

(11.00 - 11.20)

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl – Ystyried y dystiolaeth a’r adroddiad drafft

·         Tystiolaeth gan Anabledd Cymru;

·         Adroddiad drafft.

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

(11.20)

8.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

8a

CELG(4)-23-12 - Papur 3 - Gwybodaeth ychwanegol gan Sue Cohen

Dogfennau ategol:

8b

CELG(4)-23-12 - Papur 4 - Gwybodaeth ychwanegol gan yr Athro Teresa Rees

Trawsgrifiad