Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones  / Legislation: Bethan Davies

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins; nid oedd dirprwy.

(09.30 - 10.10)

2.

Ymchwiliad i ystyriaethau cydraddoldeb yng nghyllideb Llywodraeth Cymru - Sesiwn dystiolaeth

Sue Cohen, Prif Weithredwr Rhwydwaith Gweithredu Rhieni Sengl ac aelod rheoli o bwyllgor rheoli Grŵp Cyllideb Menywod

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Sue Cohen, aelod rheoli o bwyllgor rheoli Grŵp Cyllideb Menywod. Holodd yr Aelodau y tyst.

 

Cytunodd Sue Cohen anfon linc ar gyfer Strategaeth Kirklees at y Pwyllgor.

10.20 - 10.55

3.

Ymchwiliad i ystyriaethau cydraddoldeb yng nghyllideb Llywodraeth Cymru - Sesiwn dystiolaeth

CELG(4)- 21-12 – Papur 1

 

Adele Baumgardt, Cydgadeirydd, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru

Yr Athro Teresa Rees, Prifysgol Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Adele Baumgardt, Cydgadeirydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru a’r Athro Teresa Rees o Brifysgol Caerdydd. Holodd yr Aelodau y tystion.

 

Cytunodd yr Athro Rees i ddarparu papurau ymchwil penodol ar yr enghreifftiau rhyngwladol y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod i’r Pwyllgor. 

10.55 - 11.30

4.

Ymchwiliad i ystyriaethau cydraddoldeb yng nghyllideb Llywodraeth Cymru - Sesiwn dystiolaeth

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

CELG(4)-21-12 – Papur 2

 

Kate Bennett, Cyfarwyddwr Cenedlaethol

Jamie Westcombe, Cynghorydd Gwleidyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Kate Bennett a Jamie Westcombe o’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Holodd yr Aelodau y tystion. 

11.30

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar y cynnig.

(11.30 - 11.45)

6.

Ymchwiliad i bolisi Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol - trafod y prif faterion

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau y byddai hyn yn cael ei ystyried yng nghyfarfod yr wythnos nesaf.

(11.45 - 11.55)

7.

Digwyddiad ymgysylltu - gwerthusiad

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau bod y digwyddiad yn llwyddiant ac yn gyfle gwych i ymgysylltu â rhanddeiliaid. Cytunwyd y dylid cynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.  

(11.55 - 12.15)

8.

Memorandwm Cysyniad Deddfwriaethol - Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl 2012-2013

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ei agwedd at y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl 2012-2013.  

9.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

9a

CELG(4)-21-12 - Papur 3 - Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Dogfennau ategol:

9b

CELG(4)-21-12 - Papur 4 - Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Dogfennau ategol:

9c

CELG(4)-21-12 - Papur 5 - Gwybodaeth gan Achub y Plant

Dogfennau ategol:

9d

CELG(4)-21-12 - Papur 6 - Gwybodaeth gan Chwarae Teg

Dogfennau ategol:

Trawsgrifiad