Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Virginia Hawkins
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan William Powell. Nid oedd dirprwyon. |
||
(09.30 - 10.10) |
Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - tystiolaeth gan yr Arolygiaeth Gynllunio E&S(4)-09-11 papur 1 Peter Burley, Cyfarwyddwr Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Atebodd y tystion gwestiynau aelodau’r Pwyllgor am bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru. 2.2 Cytunodd Mr Burley i ddarparu nodyn ynghylch a yw cynlluniau datblygu lleol yn cael eu datblygu yn unol â pholisi ynni cenedlaethol Cymru. |
|
(10.10 - 11.00) |
Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - tystiolaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru E&S(4)-09-11 papur 2 Ceri Davies, Pennaeth Uned Strategol Cymru Anthony Wilkes, Cynghorydd Uned Strategol Cymru - Cynllunio
Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Atebodd y tystion gwestiynau aeldoau’r Pwyllgor am bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru. |
|
(11.05 - 11.55) |
Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - tystiolaeth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru E&S(4)-09-11 papur 3 Morgan Parry, Cadeirydd Roger Thomas, Prif Weithredwr Dr Sarah Wood, Arweinydd y Tîm Cynllunio Gofodol, Ynni a Seilwaith Daearol Egwyl 11.00 – 11.05 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Atebodd y tystion gwestiynau aeldoau’r Pwyllgor am bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru. 4.2 Cytunodd Dr Wood i ddarparu nodiadau am y nifer o geisiadau a ddaeth i law ar gyfer prosiectau uwchben ac o dan 50MW, wedi’u nodi yn
ôl sector. Cytunodd hefyd i ddarparu nodyn am gyfraniad Cyngor Cefn Gwlad
Cymru i’r pwyllgor cynllunio a sefydlwyd gan Lywodraeth
Cymru i gynghori ar dreulio anaerobig
a throi wastraff yn ynni. |
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod. |