Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Virginia Hawkins
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyflwyniadau Cofnodion: 1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. Cyflwynodd yr aelodau eu hunain gan nodi meysydd y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt. |
|
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd – Ffyrdd o weithio Papur 1 : E&S(4)-01-11 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cyflwynodd y Clerc bapur 1 ar ffyrdd y pwyllgor o weithio. 2.2 Cytunodd y pwyllgor i gynnal trafodaeth bellach ar ei ffyrdd o weithio yn y cyfarfod nesaf. 2.3 Cytunodd y pwyllgor i wahodd Gregg Jones o swyddfa’r gwasanaeth ymchwil ym Mrwsel i’r cyfarfod nesaf i drafod cyd-destun Ewropeaidd y portffolio. |
|
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd – Trafod materion o fewn y portffolio a chynigion ar gyfer blaenraglen waith y Pwyllgor Papur 2 : E&S(4)-01-11 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cyflwynodd y gwasanaeth ymchwil bapur 2 ar feysydd allweddol yng nghylch gwaith y pwyllgor. 3.2 Cytunodd y pwyllgor i gynnal ymchwiliad i ynni ac y byddai’r gwasanaeth ymchwil yn paratoi papur cwmpasu a chylch gorchwyl drafft erbyn y cyfarfod nesaf. 3.3 Cytunodd y pwyllgor i wahodd y Prif Weinidog a Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i un o gyfarfodydd cyntaf y pwyllgor yn nhymor yr hydref. 3.4 Gofynnodd y pwyllgor i’r swyddogion baratoi gwybodaeth am faterion hysbys ar ffurf llinell amser ar gyfer y tymor. 3.5 Cytunodd y pwyllgor i gynnal cyfarfod ffurfiol ar ddydd Mawrth 19 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru er mwyn cynnal sesiwn graffu gyda Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd. |
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf Cofnodion: 4.1 Cynhelir cyfarfod nesaf y pwyllgor am 09.00 ar ddydd Iau 14 Gorffennaf. |
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod. |