Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 412KB) Gweld fel HTML (349KB)

 

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

·         Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Ymchwiliad i Ddyfodol Ynni Craffach i Gymru?

Cofnodion:

·         Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

·         Cynigiodd Ofgem geisio llunio ffigurau ar gyfer cyfanswm yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yng Nghymru.

·         Cytunodd y Gweinidogion i roi'r ffigur i'r Pwyllgor ar gyfer cyfanswm yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yng Nghymru, a gyfrifir trwy ddefnyddio'r un diffiniad ar gyfer 'ynni cymunedol' â'r diffiniad a ddefnyddir yn yr Alban;

·         Cytunodd y Gweinidogion i roi nodyn i'r Pwyllgor ar natur a ffynhonnell y cyllid ar gyfer yr astudiaeth ddichonoldeb o Ddinas Glyfar yn Rhanbarth Abertawe a'r mentrau yn Rhondda Cynon Taf a sir y Fflint;

·         Cytunodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i roi copi i'r Pwyllgor o bwyntiau trafod Grŵp Cyflawni Strategol Ynni Cymru;

·         Cytunodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ystyried cyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol ar ddatblygiadau 'Un Blaned' mewn ardaloedd mwy adeiledig, i ategu'r cyngor presennol ar gyfer ardaloedd gwledig.

 

(09.00-10.00)

2.1

Ymchwiliad i Ddyfodol Ynni Craffach i Gymru? - Storio

Dr Jill Cainey, The Electricty Storage Network

Chloe Bines, Eunomia

Paul Brodrick, Siemens

 

 

(10.00-11.00)

2.2

Ymchwiliad i Ddyfodol Ynni Craffach i Gymru? - Ofgem

Maxine Frerk, Ofgem

Lia Murphy, Ofgem

 

(11.00-12.00)

2.3

Ymchwiliad i Ddyfodol Ynni Craffach i Gymru? - Tystiolaeth Oddi wrth Weinidogion

Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

Yr Athro Ron Loveland, Cynghorydd Egni dros Llywodraeth Cymru

Prys Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Is-adran Ynni, Dŵr a Llifogydd

 

Papur 1: Papur y Gweinidog ar gyfrifoldebau ynni

Dogfennau ategol:

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

·         Nododd Aelodau'r Pwyllgor y papur.

 

3.1

Ymateb gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Cyllid ar gyfer Cynlluniau Ynni Cymunedol yng Nghymru

Dogfennau ategol: