Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Jeff Cuthbert a Llyr Gruffydd.  Roedd Rhun Ap Iorwerth yn bresennol fel dirprwyon.

(9:30 - 11:00)

2.

Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd: Craffu ar faterion amaethyddol

Rebecca Evans AM, Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Andrew Slade, Cyfarwyddwr, Amaeth, Bwyd â’r Môr  
Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol

Cofnodion:

Atebodd y Dirprwy Weinidog a swyddogion gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

 

Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog gytuno i ddarparu nodyn am:

 

·         yr argymhellion yn ‘Hwyluso’r Dref’ sydd heb eu cwblhau; a

·         cynnydd mewn perthynas â sefydlu panel adborth ar gyfer ffermwyr ifanc.

 

3.

Papurau i'w nodi

3.1

Bil yr Amgylchedd (Cymru): Gohebiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru

E&S(4)-14-15 Papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.

3.2

Ymchwiliad i ynni: Gohebiaeth gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy

E&S(4)-14-15 Papur 2

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig

(11:00 - 11:10)

5.

Ymchwiliad Energiewende: Trafod penodi cynghorydd arbenigol

E&S(4)-14-15 Paper 3

 

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i benodi cynghorydd arbenigol.