Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alun Davidson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Russell George. Roedd Andrew R T Davies yn bresennol
fel dirprwyon. |
||
(9:30 - 11:00) |
Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant AC,
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Andrew Slade, Cyfarwyddwr Amaeth, Bwyd a'r Môr Matthew Quinn, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Datblygu
Cynaliadwy Neil Hemington, Pennaeth Cynllunio Tony Clark, Pennaeth Cyllid, Adnoddau Naturiol E&S(4)-07-15 Papur 1 E&S(4)-07-15 Papur 1 Atodiad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Atebodd y Gweinidog a’i swyddogion gwestiynau gan
aelodau’r Pwyllgor. Cytunodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i: ·
Ysgrifennu at y Pwyllgor mewn perthynas â’r prisiau a delir gan Sipsiwn
a Theithwyr am ynni a dwr, gan gynnwys sut y gallen nhw fanteisio ar raglenni
Arbed a Nyth; ·
Egluro ystyr ‘hunan-adrodd’ mewn perthynas ag Arbed a Nyth; a ·
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ynglyn â chyflwyno
deddfwriaeth i gyfyngu maint cychod pysgota yn yr ardal 0-6 milltir môr. |
|
(11:00 - 12:00) |
Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd Rebecca Evans AC,
Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd Andrew Slade,
Cyfarwyddwr Amaeth, Bwyd a'r Môr Graham Rees, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Môr a Physgodfeydd Tony Clark,
Pennaeth Cyllid, Adnoddau Naturiol E&S(4)-07-15 Papur 2 Dogfennau ategol: Cofnodion: Atebodd y
Gweinidog a’i swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd gytuno i
ddarparu rhagor o wybodaeth am sicrwydd mewn perthynas â tharddiad porthiant ar
gyfer ffermydd llaeth mawr. |
|
Papurau i'w nodi |
||
Ymchwiliad i effeithlonrwydd ynni a thlodi tanwydd: Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol E&S(4)-07-15 Papur 3 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth. |