Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Alun Davidson 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1     Cafwyd ymddiheuriadau gan Antoinette Sandbach.  Nid oedd dim dirprwyon.

 

1.2     Cytunodd y Pwyllgor i aildrefnu trefn y busnes gan nad oedd Horizon Nuclear Power yn gallu dod i’r cyfarfod fel y bwriadwyd.

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 37

Cofnodion:

2.1     Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o eitem 3.

3.

Ymchwiliad i'r achos busnes dros un corff amgylcheddol - Llythyr drafft at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cofnodion:

3.1     Cytunodd y Pwyllgor ar gynnwys ei lythyr at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, ac y dylai fod ar ffurf llythyr cefndir ac adroddiad fel atodiad. Cytunodd y Pwyllgor hefyd y dylai’r adroddiad gael ei osod gerbron y Cynulliad.

4.

Cynnig cydsyniad ynghylch y Gorchymyn, British Waterways Board (Transfer of Functions) Order

E&S(4)-13-12 papur 6

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i geisio cael eglurhad o ran pam fod Llywodaeth y DU wedi penderfynu trosglwyddo swyddogaethau’r gorfforaeth gyhoeddus, Dyfrffyrdd Prydain, i ymddiriedolaeth elusennol a elwir yn Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, yn hytrach na’r opsiynau eraill oedd ar gael.

5.

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - Tystiolaeth am ynni Niwclear

09.30 – 10.00

          E&S(4)-13-12 papur 1 - Horizon Nuclear Power

                   Charlie Tasker, Cyfarwyddwr Datblygu Prosiectau

 

10.00 – 10.30

          E&S(4)-13-12 papur 2 – Awdurdodau Lleol Di-Niwclear (NFLA)

Y Cynghorydd Stephen Churchman, Cadeirydd Fforwm NFLA Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1     Nid oedd y tyst o Horizon Nuclear Power yn gallu dod i’r cyfarfod fel y bwriadwyd.

 

5.2     Ymatebodd y Cynghorydd Stephen Churchman i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch polisi ynni a chynllunio yng Nghymru mewn perthynas ag ynni niwclear.

 

5.3     Cytunodd y Cynghorydd Churchman i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor ynghylch arbedion net a gyflawnwyd drwy fuddsoddi mewn effeithiolrwydd ynni.

 

5.4     Cytunodd y Pwyllgor y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu at Kevin McCullough fel Cadeirydd Horizon Nuclear Power i gael atebion ysgrifenedig i’w gwestiynau ynghylch ynni niwclear.

6.

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - Tystiolaeth am nwy anghonfensiynol

E&S(4)-13-12 papur 3 – Canolfan Tyndall

Yr Athro Kevin Anderson, Dirprwy Gyfarwyddwr, Canolfan Tyndall

Dr John Broderick, Cymrawd Ymchwil, Canolfan Tyndall

 

E&S(4)-13-12 papur 4 – Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

John Harrison, Rheolwr Amgylchedd, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

Dave Jones, Swyddog Technegol - Dŵr Daear a Tir Halogedig, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch polisi ynni a chynllunio yng Nghymru mewn perthynas â nwy anghonfensiynol.

7.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth

          E&S(4)-12-12 cofnodion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1     Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth.

7a

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - Papur gan y Pwyllgor Deisebau ar ei ymweliad rapporteur ar TAN 8

E&S(4)-13-12 papur 5

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.2     Nododd y Pwyllgor y papur gan y Pwyllgor Deisebau.

Trawsgrifiad