Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Russell George. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.

(13.30 - 14.30)

2.

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - tystiolaeth ar ynni dwr

Dr Aonghus McNabola, Prosiect Hydro-BPT, Coleg y Drindod, Dulyn

          E&S(4)-10-12 papur 1

Ewan Campbell-Lendrum, Infinis

          E&S(4)-10-12 papur 2

Richard Rees, Rheolwr Gyfarwyddwr, Ynni Dŵr Gogledd Cymru

          E&S(4)-10-12 papur 3

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y tystion gwestiynau aelodau’r Pwyllgor ynghylch ynni dŵr fel rhan o’r ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru.

 

2.2 Cytunodd Mr Rees a Mr Campbell-Lendrum i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor ynghylch:

 

·         Yr arfer o orfod cael caniatâd ar gyfer trwyddedu gan Asiantaeth yr Amgylchedd cyn i gais cynllunio gael ei ddilysu, gan gynnwys cymhariaeth rhwng ei profiad nhw o’r broses a ddilynir gan Barc Cenedlaethol Eryri a’r broses a ddilynir gan awdurdodau lleol cyfagos.

·         Enghreifftiau o arfer gorau yn y diwydiant ynni dŵr mewn mannau eraill yn y DU.

·         Y safonau gwahanol ar gyfer rhannu llif yng Nghymru o’u cymharu â’r Alban a Lloegr.

·         Proffidioldeb cymharol cynllun tebyg yng Nghymru o’i gymharu â’r Alban.

 

2.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Asiantaeth yr Amgylchedd i geisio eglurder ynghylch y polisi rhannu llif yng Nghymru a materion cysylltiedig.

Trawsgrifiad