Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan William Powell. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.

(09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - tystiolaeth ar dreulio anaerobig a throi gwastraff yn ynni

Dr Sandra Esteves, Cyfarwyddwr, Canolfan Ragoriaeth Cymru ar gyfer Treulio Anaerobig, Prifysgol Morgannwg

          E&S(4)-09-12 papur 1

Clifford Parish, Cadeirydd, Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff Cymru

          E&S(4)-09-12 papur 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y tystion gwestiynau aelodau’r pwyllgor ynghylch treulio anaerobig a throi gwastraff yn ynni fel rhan o’r ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru.

(10.30 - 11.30)

3.

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - tystiolaeth ar fiomas

Kath McNulty, Rheolwr Cenedlaethol Cymru, Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd (Confor)

Darren Williams, Cyfarwyddwr Masnachol, Eco2

          E&S(4)-09-12 papur 3

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd y tystion gwestiynau aelodau’r pwyllgor ynghylch ynni biomas fel rhan o’r ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru.

 

(11.30 - 11.45)

4.

Canllawiau Statudol Drafft ynghylch tir halogedig

E&S(4)-09-12 papur 5

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i gydnabod y pryderon a fynegwyd gan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd Cymru mewn perthynas â’r Canllawiau Statudol Drafft ynghylch Tir Halogedig.

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y cyfarfodydd ar 9 a 22 Chwefror

          E&S(4)-07-12 cofnodion

          E&S(4)-08-12 cofnodion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 9 a 22 Chwefror.

5a

Ymchwiliad i'r achos busnes dros un corff amgylcheddol - gwybodaeth ychwanegol gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

E&S(4)-09-12 papur 4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy.

 

Trawsgrifiad