Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Ethol Cadeirydd Dros Dro o dan Reol Sefydlog 17.22

Cofnodion:

1.1 Etholodd y Pwyllgor Vaughan Gething fel Cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn a’r cyfarfod yn y prynhawn.

2.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Elis-Thomas. Nid oedd neb yn dirprwyo.

(09.15 - 11.15)

3.

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth ar TAN 8

Peter Ogden, Cyfarwyddwr yr Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

          E&S(4)-01-12 papur 1

                  

John Day, Prif Ddeisebwr, P-04-024 Dywedwch Na i TAN 8 – Mae ffermydd gwynt a llinellau pŵer foltedd uchel yn difetha ein cymuned
          E&S(4)-01-12 papur 2

 

Neville Thomas QC, Cynghrair Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru

E&S(4)-01-12 papur 3

 

Huw Morgan, Sir Drefaldwyn yn erbyn Peilonau

E&S(4)-01-12 papur 4

 

John Morgan, Cymdeithas Mynyddoedd Cambria

E&S(4)-01-12 papur 5

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor am y polisi ynni a chynllunio yng Nghymru.

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr

          E&S(4)-10-11 cofnodion

          E&S(4)-11-11 cofnodion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2011, y llythyron a gafwyd gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd a’r wybodaeth ysgrifenedig ychwanegol a gafwyd i’r ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru.

(11.15)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 5 a 6

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 5 a 6.

(11.15 - 11.30)

6.

Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin - adroddiad drafft y Grwp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyron drafft gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin i Lywodraeth Cymru a chytuno i’r rapporteur ar gyfer Senedd Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau.

(11.30 - 12.00)

7.

Ymchwiliad i’r achos busnes ar gyfer yr un corff amgylcheddol - cytuno ar y cylch gorchwyl a phenodi cynghorwyr arbenigol

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad i’r achos busnes ar gyfer yr un corff amgylcheddol.

 

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i benodi yr Athro Terry Marsden a’r Athro Robert Lee fel cynghorwyr arbenigol i gynorthwyo â’r ymchwiliad. Wrth wneud hynny, nododd Antoinette Sandbach y byddai’n well ganddi petai’r Pwyllgor yn gallu dewis o ystod ehangach o ymgeiswyr.

Trawsgrifiad