Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Virginia Hawkins 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth Dafydd Elis-Thomas, Llyr Huws Gruffydd a David Rees. Roedd Rhodri Glyn Thomas yn dirprwyo ar ran Llyr Huws Gruffydd.

(13.00 - 15.00)

2.

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - Tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol

E&S(4)-11-12 papur 1 – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

E&S(4)-11-12 papur 2 – Cyngor Sir Powys

 

Craig Mitchell, Swyddog Polisi, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Cyng Graham Brown, Cadeirydd, Grŵp Gweithio TAN 8, Cyngor Sir Powys

Alan Southerby, Uwch Reolwr, Rheolaeth Datblygu, Cyngor Sir Powys

Steve Packer, Cynghorydd Prosiectau Arbennigol, Cyngor Sir Powys

Cyng David Lewis, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd & Gwasanaethau Eiddo, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Geoff White, Pennaeth Cynllunio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y tystion gwestiynau Aelodau’r Pwyllgor am bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru.

 

2.2 Cytunodd Mr Mitchell i ddarparu nodyn ar safbwyntiau Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru ar y problemau trafnidiaeth yn ymwneud â datblygiadau ffermydd gwynt ac i ddarparu rhagor o wybodaeth am yr achos a gyfeiriwyd ato ynghylch sŵn tyrbinau gwynt.  

Trawsgrifiad