Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Virginia Hawkins
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
Ymchwiliad i Ynni - Papur cwmpasu a chylch gorchwyl drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Pleidleisiodd y Pwyllgor ar y cynnig y byddai ei ymchwiliad cyntaf ar ynni. Pleidleisiodd wyth Aelod o blaid y cynnig, un yn ei erbyn ac ni phleidleisiodd un Aelod. 2.2 Trafododd y Pwyllgor y cylch gorchwyl drafft a rhai o’r diwygiadau. 2.3 Cytunodd y Pwyllgor y dylid dosbarthu’r cylch gorchwyl drafft diwygiedig i’r Aelodau mewn e-bost er mwyn iddynt ei gymeradwyo. |
|
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Ffyrdd o weithio Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Pleidleisiodd y Pwyllgor ar y cynnig i sefydlu dau grŵp gorchwyl a gorffen: un i ystyried y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’r llall i ystyried y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin. Pleidleisiodd pum Aelod o blaid y cynnig, pedwar yn ei erbyn ac ni phleidleisiodd un Aelod. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Aelodau’n hysbysu’r Clerc ynghylch pa un o’r grwpiau gorchwyl a gorffen yr hoffent fod yn aelod ohono.
|
|
Deisebau: P-03-273 Cludo tyrbini gwynt yn y Canolbarth & P-04-324 Dywedwch Na i TAN 8 – Mae ffermydd gwynt a llinellau pwer foltedd uchel difetha ein cymuned Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y deisebau a chytunodd y dylid eu cynnwys yn ei ymchwiliad i ynni. 4.2 Byddai’r Cadeirydd yn ymateb yn ffurfiol i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau. |
|
Cylch gwaith y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - y Cyd-destun Ewropeaidd Cofnodion: 5.1 Gwnaeth Gregg Jones o’r Gwasanaeth Ymchwil ym Mrwsel gyflwyniad i’r Pwyllgor am ei rôl a sut y gallai gynorthwyo gwaith y Pwyllgor. |
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod. |