Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson  029 2089 8639

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Llyr Gruffydd.  Nid oedd unrhyw ddirprwyon.

 

 

(09:30 - 11:00)

2.

Cyfoeth Naturiol Cymru - Sesiwn graffu cyffredinol

E&S (4)-12-14 papur 1

 

          Peter Matthews, Cadeirydd

          Emyr Roberts, Prif Weithredwr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd Emyr Roberts a Peter Matthews i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

2.2 Cytunodd Emyr Roberts i ddarparu gwybodaeth yn ysgrifenedig am:

  • Sut mae'r 209 o erlyniadau a wnaed gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod 2013-14 yn cymharu â'r ffigurau ar gyfer blynyddoedd blaenorol;
  • Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â cheisiadau a wnaed gan adrannau eraill Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau nad oes gwrthdaro rhwng buddiannau;

Cylch gwaith y grŵp a sefydlwyd i drafod y Llwybr Arfordir Cymru.

 

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mai

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y cofnodion.

 

 

3.1

Llythyr gan RSPB Cymru : Bil Cenedlaethau'r Dyfodol

E&S (4)-12-14 papur 2

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.2

Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd : Strategaeth Ddwr i Gymru

E&S(4)-12-14 papur 3

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.3

Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd : Effaith economaidd ffermydd gwynt ar dwristiaeth

E&S(4)-12-14 papur 4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(11:00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 5, 6 a 7

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11:10 - 11:25)

5.

Cylch gorchwyl arfaethedig ar gyfer ymchwiliadau'r dyfodol

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gylch gorchwyl ar gyfer ei ymchwiliadau i ailgylchu yng Nghymru ac effeithlonrwydd ynni a thlodi tanwydd yng Nghymru.

 

(11:25 - 11:30)

6.

Ymchwiliad i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 ger Casnewydd: Trafod y camau nesaf

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.

 

(11:30 - 12:30)

7.

Rheoli Tir yn Gynaliadwy: Trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried unrhyw newidiadau drwy e-bost.