Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alun Davidson 029 2089 8639
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro Cofnodion: 1.1 Yn
absenoldeb Dafydd Elis-Thomas, etholwyd William Powell yn Gadeirydd dros dro. |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 2.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Dafydd Elis-Thomas. Nid oedd unrhyw ddirprwyon. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 - 7 Cofnodion: 3.1
Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig. |
||
Bil yr Amgylchedd - Papur Gwyn: Papur briffio ffeithiol gan swyddogion Llywodraeth Cymru Rhodri Asby, Pennaeth Newid yn yr Hinsawdd ac Adnoddau
Naturiol Andy Fraser, Pennaeth y Rhaglen Rheoli Adnoddau Naturiol Jasper Roberts, Pennaeth yr Is-adran Gwastraff ac
Effeithlonrwydd Adnoddau Nia James, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol yr
Amgylchedd Cofnodion: 4.1 Rhoddodd
Andy Fraser gyflwyniad ar y cynigion yn y Papur Gwyn. 4.2 Atebodd y
swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. |
||
(10:30-11:00) |
Ymchwiliad i wastraff ac adnoddau - trafod yr ymatebion i’r ymgynghoriad Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Oherwydd
y nifer fach o ymatebion a gafwyd, cytunodd y Pwyllgor i beidio â chynnal
ymchwiliad i wastraff ac adnoddau, ond i drafod y pwnc mewn sesiwn graffu yn y
dyfodol gyda’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Y Bil Dŵr Cofnodion: 6.1 Cytunodd
y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft. |
||
Blaenraglen waith - Gwanwyn 2014 Cofnodion: 7.1 Trafododd
y Pwyllgor y rhaglen waith a chytuno arni. |
||
(11:00-11:30) |
Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) - Trafodaeth gyda’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd E&S(4)-30-13
papur 1 Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Gary Haggaty, Pennaeth Yr Is-adran Amaeth a Materion
Gwledig Fiona Leadbitter, Swyddog Polisi Ceffylau Dogfennau ategol: Cofnodion: 8.1 Ymatebodd
y Gweinidog i gwestiynau gan y Pwyllgor ar y canllawiau drafft i’r Bil Rheoli
Ceffylau (Cymru). 8.2 Cytunodd
y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog unwaith y byddai’r Aelodau wedi cael
cyfle i drafod y canllawiau drafft yn fanylach. |
|
Papurau i’w nodi Cofnodion y
cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 a 20 Tachwedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Nododd y
Pwyllgor y cofnodion. |
||
Y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru): Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd E&S(4)-30-13 papur 2 Dogfennau ategol: Cofnodion: 9.2 Nododd y
Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Llywydd - Cylch Gorchwyl a Chyfrifoldebau’r Pwyllgorau E&S(4)-30-13 papur 3 Dogfennau ategol: Cofnodion: 9.3 Nododd y
Pwyllgor y llythyr. |