Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Alun Davidson  029 2089 8639

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1  Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

(11.00 - 12.30)

2.

Cyfoeth Naturiol Cymru

E&S(4)-18-13 papur 1

Dr Emyr Roberts, Prif Weithredwr

Yr Athro Peter Matthews, Cadeirydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Athro Matthews a Dr Roberts yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

2.2 Cytunodd Dr Roberts i ddarparu rhagor o fanylion ar lefel y wybodaeth sy'n cael ei chyhoeddi yng nghofrestr penderfyniadau trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

2.3 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd ynghylch Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau i CNC ar sut y dylai ddehongli'r diben statudol sydd wedi'i gynnwys yn Cyfoeth Naturiol Cymru (Gorchymyn Sefydlu) 2012.