Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Claire Morris
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies. |
||
(9:15-10:00) |
Sesiwn Craffu ar waith y Gweinidog : Cyfiawnder Ieuenctid Carl Sargeant, y
Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Egwyl (10:00 – 10:10) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion. 2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am: - Y manylion ynghlych nifer y plant sydd yn y ddalfa yng Nghymru, gan gynnwys eu lleoliad a’u rhyw. - A wariwyd yr holl arian yn y gronfa Diogelu Cymunedau yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf - Y gyllideb refeniw cyfiawnder ieuenctid - Cryfhau rôl y Comisiynydd Plant mewn perthynas â phlant o Gymru sydd yn y ddalfa yn Lloegr - Nifer yr unigolion yn y ddalfa sy’n cael dedfryd o garchar yn y diwedd
|
|
(10:10 - 11:40) |
Comisiynydd Plant Cymru: Adroddiad Blynyddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y Comisiynydd. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y ffaith nad oes canllawiau o hyd ar gyfer asesu anghenion gofal iechyd plant. 3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cynnydd Llywodraeth Cymru o ran gweithredu argymhellion adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc blaenorol ar gyllidebu ar gyfer plant; a’r oedi o ran cyflwyno cynllun gweithredu ar gyfer y Strategaeth Tlodi Plant. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: |
||
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod. |