Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

(10:15 -11:15)

2.

Ymchwiliad i Iechyd y Geg mewn Plant yng Nghymru: Craffu ar waith y Gweinidog

·         Lesley Griffiths; y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

·         Yr Athro Ivor G Chestnutt; Athro a Meddyg Ymgynghorol Anrhydeddus, Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd

·         Andrew Powell-Chandler; Pennaeth Polisi Deintyddol  

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r Gweinidog.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am:

·         Werthuso’r rhaglen Cynllun Gwên

·         Nifer y plant o fewn ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol sydd wedi cofrestru â gwasanaeth deintyddol cymunedol y tu allan i’r Cynllun Gwên

·         Nifer y plant sydd wedi’u cynnwys yn y cwintel isaf ac sy’n cael eu targedu er mwyn codi’r lefel i’r cwintel canol

·         Manylion, fesul awdurdod lleol, am yr ysgolion sydd wedi’u cynnwys yn y rhaglen ond sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r ardaloedd a dargedwyd

·         Nifer yr ymwelwyr iechyd sy’n ymwneud â’r broses o weithredu’r rhaglen Cynllun Gwên ar gyfer plant 0-3 oed, a sut y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu

·         Y gwerthusiad a gynhaliwyd gan Weinidogion blaenorol Cymru i’r posibiliadau o fflworideiddio dŵr, a’r dystiolaeth ategol.

3.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y papur a ganlyn:

 

·         Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Trawsgrifiad