Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Kirsty Williams AC. Roedd Aled Roberts AC yn dirprwyo. |
|
Craffu ar waith y Gweinidog Addysg a Sgiliau (09:00 - 10:00) · Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau · Jeff Cuthbert, Dirprwy Weinidog Sgiliau · Emyr Roberts, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol oes a Sgiliau ·
Chris Tweedale, Cyfarwyddwr, Grŵp Plant, Pobl Ifanc ac Effeithiolrwydd Ysgolion Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Croesawodd y
Cadeirydd Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a Jeff Cuthbert
AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau, i’r cyfarfod. 2.2 Bu’r
Gweinidogion yn ateb cwestiynau gan yr Aelodau am eu portffolios a’u
blaenoriaethau. |
|
Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol (10:00 - 11:00) · Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol · Rob Pickford, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru · Martin Swain, Swyddog Arweiniol ar Weithio mewn Partneriaeth ym maes Plant a Theuluoedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Croesawodd y
Cadeirydd Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau
Cymdeithasol, i’r cyfarfod. 3.2 Bu’r
Gweinidog yn ateb cwestiynau gan yr Aelodau am ei phortffolios a’i
blaenoriaethau. 3.3 Cytunodd y Gweinidog
i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn i’r Pwyllgor: ·
Nifer
yr achosion mae CAFCASS yn ymdrin â hwy ar hyn o bryd; ·
Goblygiadau
y gallai newidiadau mewn cymorth cyfreithiol eu cael ar faterion amddiffyn
plant; ·
Nifer
yr achosion llys a gaiff eu cyfeirio gan awdurdodau lleol. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod Eitem 5 Cofnodion: 4.1 Cytunodd y
Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod, yn unol â Rheol Sefydlog
17.42(ix), er mwyn trafod materion yn ymwneud ag ymchwiliadau posibl yn y
dyfodol. |
|
Ymchwiliadau posibl yn y dyfodol Cofnodion: 5.1 Cytunodd y
Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i iechyd geneuol plant. 5.2 Bydd
ymgynghoriad yn cael ei gynnal dros yr haf a bydd y Pwyllgor yn dechrau casglu
tystiolaeth yn yr hydref. |
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod. |