Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Ann Jones, Bethan Jenkins ac Aled Roberts. Dirprwyodd Jeff Cuthbert ar ran Ann Jones a
dirprwyodd Eluned Parrott ar ran Aled Roberts. |
|
(09.00 - 09.20) |
Ffordd y Pwyllgor o ymdrin â Bil Cymru drafft CYPE(4)-27-15 – Papur preifat 1 CYPE(4)-27-15 – Papur preifat 2 : Ymateb gan Comisiynydd Plant Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor bapur ar Fil Cymru drafft. Cytunwyd i ysgrifennu at y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. |
|
(09.20 - 09.40) |
Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi - trafod yr adroddiad drafft CYPE(4)-27-15 – Papur preifat 3 Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar yr argymhellion drafft. Bydd yr adroddiad drafft yn cael ei drafod yng
nghyfarfod yr wythnos nesaf. |
|
(09.40 - 09.55) |
Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg - trafod yr adroddiad drafft CYPE(4)-27-15 – Papur preifat 4 Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft. |
|
(10.00 - 12.30) |
Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysgiadol (Cymru) drafft - digwyddiad i randdeiliaid |