Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones a John Griffiths.
Nid oedd Aelodau’n dirprwyo ar eu rhan. |
|
(09.30 - 10.30) |
Gwaith dilynol ar yr Ymchwiliad i Wasanaethau Mabwysiadu yng Nghymru - sesiwn friffio gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gweithrediadau - Gwasanaeth Mabwysiadu
Cenedlaethol Cymru Phil Hodgson, Cadeirydd Annibynnol Grŵp
Cynghori'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor eu briffio gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng
Nghymru. |
|
(10.30 - 11.00) |
Trafod Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid CYPE(4)-30-15 – Papur preifat 1 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor lythyr oddi wrth y Pwyllgor Cyllid yn gofyn am adborth
ar broses y gyllideb a chraffu ariannol ar ddeddfwriaeth. Cytunwyd i gyflwyno
eu barn yn ysgrifenedig. |