Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Angela Burns, John Griffiths a Lynne Neagle. Dirprwyodd Jeff
Cuthbert ar ran Lynne Neagle. |
|
(09.30 - 10.30) |
Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi - Sesiwn dystiolaeth 10 Llywodraeth Cymru CYPE(4)-15-15 – Papur 1 Huw Lewis AC, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau Brett Pugh, Cyfarwyddwr Grŵp-Y Grŵp Safonau a Gweithlu Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau. ·
Bydd y Gweinidog yn ysgrifennu at y Pwyllgor ar y pwyntiau a wnaed ynghylch
dull y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol o ddewis yr asiantaeth sy'n cael ei ffafrio
ar gyfer athrawon cyflenwi. |
|
Papurau i’w nodi |
||
(10.30) |
Ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol CYPE(4)-15-15 – Papur i’w nodi 2 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nodwyd y papur. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(10.30 - 11.00) |
Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi - trafodaeth ar y dystiolaeth a dderbyniwyd Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd mewn perthynas â'r ymchwiliad. |
|
(11.00 - 11.30) |
Ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed - y camau nesaf Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y camau nesaf yn yr ymchwiliad i CAMHS. |