Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Angela Burns, John Griffiths a Simon Thomas. Dirprwyodd Paul
Davies ar ran Angela Burns. Datganodd
Aled Roberts ei fod yn Llywodraethwr Ysgol. |
|
(09.30 - 10.30) |
Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi - Sesiwn dystiolaeth 1 Estyn Meilyr Rowlands,
Cyfarwyddwr Strategol Catherine Evans,
Arolygydd EM Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y
Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Estyn. |
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: Nodwyd y
papurau. |
||
Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi - Crynodeb o’r ymatebion i’r holiadur CYPE(4)-08-15 – Papur i’w nodi 2 Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Cytunwyd ar
y cynnig. |
||
(10.30 - 11.15) |
Y Pwyllgor yn trafod y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) CYPE(4)-18-15 –
Papur preifat 3 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor lythyr oddi wrth y Pwyllgor Iechyd a
Gofal Cymdeithasol Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y dystiolaeth ysgrifenedig
i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ôl i'r ymgynghoriad gau. Byddai'r
Pwyllgor yn ymateb yn ffurfiol i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ôl
iddo ystyried y dystiolaeth honno. |