Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns a John Griffiths. Roedd Paul Davies yn dirprwyo ar ran Angela
Burns. |
|
(09.30 - 10.30) |
Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi - Sesiwn dystiolaeth 2 Undeb
Cenedlaethol yr Athrawon Cymru (NUT) ac Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru
(UCAC) CYPE(4)-09-15
– Papur 1 CYPE(4)-09-15
– Papur 2 Owen Hathway, Swyddog Polisi Cymru - NUT Cymru Elaine
Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol - UCAC Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru ac
Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru. |
|
(10.30 - 11.30) |
Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi - Sesiwn dystiolaeth 3 Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru ac Awdurdodau Addysg Lleol CYPE(4)-09-15
– Papur 3 Dr Chris
Llewelyn, Dirprwy Brif Weithredwr, Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, Hamdden a
Gwybodaeth - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Daisy
Seabourne, Rheolwr Polisïau Dysgu Gydol Oes, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu'r eitemau a ganlyn
i'r Pwyllgor: ·
Data gan awdurdodau lleol am absenoldeb athrawon a'r defnydd o athrawon
cyflenwi; ·
Adborth a gafwyd gan Awdurdodau Lleol sydd â darparwyr a ffefrir; ·
Gwybodaeth am y dulliau rheoli perfformiad sydd gan awdurdodau lleol o ran
athrawon cyflenwi; ·
Gwybodaeth am y Cytundebau Fframwaith sydd gan Awdurdodau Lleol gydag
Asiantaethau o ran datblygiad proffesiynol parhaus, a hyfforddiant; ·
Cadarnhau ar ba ddyddiad y bydd y Fframwaith newydd yn dechrau ac yn
diweddu, ac a fydd yr Awdurdodau Lleol yn ymrwymedig i'r Fframwaith newydd; ·
Anfon polisi arfer gorau Cyngor Wrecsam a ddarperir i ysgolion ar athrawon
cyflenwi; ·
Rhoi'r ddogfen enghreifftiol genedlaethol ddiweddaraf i'r Pwyllgor; ·
Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y trafodaethau gyda Chonsortia
Rhanbarthol ar y gweithdrefnau disgyblu a ddefnyddir gan asiantaethau cyflenwi. |