Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd
aelodau’r Pwyllgor. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Angela Burns a John Griffiths. |
|
(09.30 - 11.00) |
Sesiwn Friffio gyda Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad ar Drefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon, Medi 2013 CYPE(4)-07-15 - Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru Steve
Martin, Rheolwr Prosiect (Astudiaethau Cenedlaethol) - Swyddfa Archwilio Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cafodd y
Pwyllgor eu briffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar ei adroddiad ar absenoldeb
athrawon cyflenwi a gyhoeddwyd ym mis Medi 2013. |
|
(11.00 - 11.15) |
Sesiwn friffio gan y Gwasanaeth Cyfathrebu ar ganlyniadau’r arolwg a gynhaliwyd ar gyfer yr ymchwiliad i waith athrawon cyflenwi CYPE(4)-07-15 – Arolwg Cofnodion: Cafodd y
Pwyllgor eu briffio gan y Gwasanaeth Cyfathrebu a’r Gwasanaeth Ymchwil ar yr
arolwg a’r ymatebion ysgrifenedig a ddaeth i law ar gyfer yr ymchwiliad i
athrawon cyflenwi. |
|
(11.00 - 11.30) |
Trafodaeth ar yr Ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ymchwiliad i CAMHS. |
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: Nodwyd y papurau. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn dilyn ei bresenoldeb yn y cyfarfod ar 5 Chwefror. CYPE(4)-07-15 - Papur i’w nodi 1 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 21 Ionawr. CYPE(4)-07-15
– Papur i’w nodi 2 Dogfennau ategol: |