Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 360KB) Gweld fel HTML (336KB)

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan John Griffiths a David Rees. Nid oedd Aelodau’n dirprwyo ar eu rhan.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Trafodaeth gyda’r Consortia Addysg Rhanbarthol - Gwasanaeth Cyflawni Addysg De-ddwyrain Cymru (EAS)

EAS
CYPE(4)-21-15 – Papur 1

 

Steve Davies, Rheolwr-gyfarwyddwr - EAS

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gwnaeth Aled Roberts ddatgan ei fod yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol, gwnaeth Keith Davies ddatgan ei fod yn llywodraethwr ysgol a gwnaeth Bethan Jenkins ddatgan bod ei mam yn athrawes mewn ysgol ym Mhontypridd.

 

Bu’r Pwyllgor yn trafod canfyddiadau adroddiadau Estyn a Swyddfa Archwilio Cymru gyda chynrychiolwyr o’r Consortia Addysg Rhanbarthol.

 

Cytunodd Consortiwm EAS i ddarparu nodyn ar gyflwyno a gwerthuso’r rhaglenni cynefino newydd sy’n cefnogi athrawon sydd newydd gymhwyso a gyflogir fel athrawon cyflenwi tymor byr.

 

 

(10.30 - 11.30)

3.

Trafodaeth gyda’r Consortia Addysg Rhanbarthol – Consortiwm Canol De Cymru

Consortiwm Canol De Cymru

CYPE(4)-21-15 – Papur 2

 

Hannah Woodhouse, Rheolwr-gyfarwyddwr – Consortiwm Canol De Cymru

Deborah McMillan, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Pen-y-bont ar Ogwr a Phrif Gyfarwyddwr y Consortiwm
Chris Elmore, Cadeirydd y Cyd-bwyllgor

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd Consortiwm Canolbarth y De i ddarparu nodyn ar gostau diswyddo staff a dadansoddiad o’r 1.6 miliwn o gyllid ar gyfer cronfeydd adeiladu capasiti her ysgolion.

 

 

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

 

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)

CYPE(4)-21-15 – Papur i’w nodi 3

 

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb

CYPE(4)-21-15 - Papur i’w nodi 4

 

Dogfennau ategol:

4.3

Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau – Ymchwiliad i waith athrawon cyflenwi

CYPE(4)-21-15 - Papur i’w nodi 5

 

Dogfennau ategol:

4.4

Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau – Sefydlu Cymwysterau Cymru

CYPE(4)-21-15 - Papur i’w nodi 6

 

Dogfennau ategol:

4.5

Llythyr gan y Llywydd – Digwyddiad Senedd@

CYPE(4)-21-15 - Papur i’w nodi 7

 

Dogfennau ategol:

4.6

Llythyr gan y Llywydd – Bil Cymru drafft

CYPE(4)-21-15 - Papur i’w nodi 8

 

Dogfennau ategol:

4.7

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - CAMHS

CYPE(4)-21-15 - Papur i’w nodi 9

 

Dogfennau ategol:

4.8

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - P-04-552 Diogelu Plant

CYPE(4)-21-15 - Papur i’w nodi 10

 

Dogfennau ategol:

4.9

Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau – Llythyr dyrannu cymorth grant i Cymwysterau Cymru

CYPE(4)-21-15 - Papur i’w nodi 11

 

Dogfennau ategol:

4.10

Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau - Ymchwiliad i ganlyniadau addysgol plant o gartrefi incwm isel

CYPE(4)-21-15 – Papur i’w nodi 12

 

Dogfennau ategol:

4.11

Rhagor o wybodaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg yn dilyn y cyfarfod ar 8 Gorffennaf

CYPE(4)-21-15 – Papur i’w nodi 13

 

Dogfennau ategol:

4.12

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Adolygu trefniadau clustnodi ariannol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru

CYPE(4)-21-15 - Papur i’w nodi 14

 

Dogfennau ategol:

(11.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Oherwydd diffyg amser, ni aeth y Pwyllgor i sesiwn breifat.

 

(11.30 - 12.00)

6.

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2016-17 – trafod llythyron drafft

CYPE(4)-21-15 – Papur preifat 15

 

Cofnodion:

Nid oedd digon o amser i’r Pwyllgor drafod y llythyrau drafft. Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r llythyrau hyn yn cael eu hystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.