Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns, John Griffiths a David Rees.  

(09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi - Sesiwn dystiolaeth 4

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

CYPE(4)-10-15 – Papur 1

 

Yr Athro Ken Jones, Uwch Ymgynghorydd ar gyfer Dysgu Proffesiynol Parhaus

Peter Thomas, Cydlynydd y Rhaglen Cymorth a Datblygu ar gyfer Athrawon Cyflenwi

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Cadeirydd dystiolaeth gan yr Athro Ken Jones a Peter Thomas o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

(10.30 - 11.30)

3.

Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi - Sesiwn dystiolaeth 5

Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau

CYPE(4)-10-15 – Papur 2

 

Rex Phillips, Trefnydd Cymru 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau.

(11.30)

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

4.1

Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau - Penodiad Cadeirydd newydd i Fwrdd Cysgodol Cymwysterau Cymru

CYPE(4)-10-15 – Papur i'w nodi 3

 

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Adroddiad ar sylweddau seicoweithredol newydd

CYPE(4)-10-15 – Papur i'w nodi 4

 

Dogfennau ategol:

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod:

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(11.30 - 12.00)

6.

Trafod y flaenraglen waith

CYPE(4)-10-15 – Papur preifat 5

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith, sy'n rhoi amlinelliad o'r gwaith y mae'r Pwyllgor wedi ymrwymo i'w wneud, a phynciau posibl ar gyfer gwaith y dyfodol.

 

Cytunodd y Pwyllgor i wneud gwaith yn y meysydd a ganlyn:

-     Dau ymchwiliad dilynol penodol i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed, yn benodol ar y defnydd o feddyginiaeth ar bresgripsiwn yng nghyd-destun y gwasanaethau a darparu'r gwasanaethau ar lefel sylfaenol;

-     Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg; 

-     Y Consortia Rhanbarthol;

-     Gwaith etifeddiaeth;

-     Craffu ariannol yn ystod y flwyddyn.

 

Trafododd y Pwyllgor hefyd lythyr gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth a chytunwyd y byddai'n ymateb i'r Gweinidog yn ysgrifenedig.