Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod. |
||
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr
Aelodau i'r Pwyllgor. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Angela Burns a Rebecca Evans. Nododd y Cadeirydd y byddai Paul Davies yn
dirprwyo ar ran Angela Burns hyd nes y clywir yn wahanol. Dirprwyodd John Griffiths ar ran Rebecca
Evans. Nododd y Cadeirydd na fydd
Bethan Jenkins, gan mai hi yw'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil Addysg a
Chynhwysiant Ariannol (Cymru), yn mynychu unrhyw sesiynau Pwyllgor sy'n ymwneud
â'r Bil. Ni fydd dirprwy ar ei rhan yng
Nghyfnod 1. |
||
(09.30 - 10.30) |
Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) - Sesiwn Dystiolaeth 1 Bethan
Jenkins AC Aelod sy'n gyfrifol Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Bethan Jenkins AC. Cytunodd yr Aelod i ddarparu nodyn ynghylch
Adran 12 o'r Bil, gan nodi'n benodol sut y bydd awdurdodau lleol yn datblygu ac
yn cynnal rhestr o ffynonellau cyngor a sut y gallant sicrhau bod y cyngor hwnnw'n
ddibynadwy. |
|
(10.30 - 11.30) |
Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) - Sesiwn Dystiolaeth 2 Cymdeithas
Cyfarwyddwyr Addysg Cymru CYPE(4)-21-14
– Papur 1 Eifion Evans, Cyfarwyddwr Addysg Ceredigion a Chadeirydd
y Gymdeithas Pierre Bernhard-Grout, Swyddog Gweithredol Cymdeithas
Cyfarwyddwyr Addysg Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru. |
|
(11.30 - 12.00) |
Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) - Sesiwn Dystiolaeth 3 Canolfan
Cydweithredol Cymru CYPE(4)-21-14
– Papur 2 Jocelle
Lovell, Rheolwr Prosiect Dave Brown,
Cyfarwyddwr Strategaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. |
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: Nodwyd y papurau. |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Addysg Uwch Cymru yn dilyn cyfarfod 25 Mehefin CYPE(4)-21-14
– Papur 3 i'w nodi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Addysg Uwch Cymru at y Pwyllgor Cyllid CYPE(4)-21-14
– Papur 4 i'w nodi Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn y cyfarfod ar 17 Gorffennaf CYPE(4)-21-14
– Papur 5 i'w nodi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau CYPE(4)-21-14
– Papur 6 i'w nodi Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Item
7 Cofnodion: Derbyniodd
y Pwyllgor y cynnig |
||
(12.00 - 12.30) |
Y Bil Addysg Uwch (Cymru) – Ystyried adroddiad drafft Cyfnod 1 CYPE(4)-21-14
– Papur preifat 7 Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft. Cytunwyd y
byddai'r adroddiad yn cael ei ystyried ymhellach yn y cyfarfod nesaf. |