Agenda a Chofnodion
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad - Dydd Mercher, 6 Tachwedd 2013 09.15
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies; nid oedd dirprwy yno ar ei rhan. |
|
(09.30 - 10.30) |
Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru CYP(4)-28-13
– Papur 1 – Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Keith
Towler, Comisiynydd Plant Cymru Eleri Thomas, Prif Weithredwr Dogfennau ategol: Cofnodion: Holodd yr Aelodau'r Comisiynydd Plant ynghylch ei Adroddiad Blynyddol. Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu nodyn ar y canlynol: Costau gweinyddol a gweithdrefnau cyfrifyddu y swyddfa dros y ddwy flynedd ddiwethaf; Manylion penodol am y broses Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant; a Rhagor o fanylion am waith y Comisiynydd ar fynediad i blant a phobl ifanc anabl mewn addysg prif ffrwd, unedau cyfeirio disgyblion a gwyliau byr. Cytunodd y Comisiynydd i roi papur briffio i'r Pwyllgor ar ddarparu gwasanaethau CAMHS. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Comisiynydd gyda rhagor o gwestiynau. |
|
(10.30 - 12.00) |
Bil Addysg (Cymru) - Cyfnod 1 - Trafod yr adroddiad drafft CYP(4)-28-13 – Papur preifat 2 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y papur ar y materion allweddol. Bydd adroddiad drafft yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf. |
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: Nodwyd y papurau. |
||
Papurau i’w nodi - Tudalen glawr Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 - Gwybodaeth bellach gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau CYP(4)-28-13 – Papur i'w nodi 3 Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 - Gwybodaeth bellach gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi CYP(4)-28-13 – Papur i'w nodi 4 Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth bellach gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 26 Medi CYP(4)-28-13 – Papur i'w nodi 5 Dogfennau ategol: |
||
Neges e-bost gan y Ddraig Ffynci ynghylch y sesiwn graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-2015 CYP(4)-28-13- Papur i’w nodi 6 Dogfennau ategol: |