Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Cyswllt: Polisi: Claire Morris / Legislation: Elizabeth Wilkinson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau ac nid oedd dim dirprwyon yn bresennol. |
||
(09.15-10.00) |
Ymchwiliad i Bresenoldeb ac Ymddygiad: sesiwn graffu Ian James, Cyfarwyddwr Addysg Interim, Dinas a Sir Abertawe Robin Brown, Pennaeth Cynhwysiant Addysgol, Dinas a Sir Abertawe Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd Ian James, Cyfarwyddwr Addysg Interim, Dinas a Sir Abertawe, a Robin Brown, Pennaeth Cynhwysiant Addysgol, Dinas a Sir Abertawe, i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion. Cam i’w gymryd: Cytunodd y Pwyllgor i anfon cwestiynau ychwanegol gan yr Aelodau at y tystion, a chytunodd y tystion i’w hateb ac i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor. |
|
(10.15-11.00) |
Ymchwiliad i Bresenoldeb ac Ymddygiad: sesiwn graffu Arwyn Thomas, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Addysg a Chymunedol, Cyngor Sir Ceredigion Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd Arwyn Thomas, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Addysg a Chymunedol, Cyngor Sir Ceredigion, i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tyst. Cam i’w gymryd: Cytunodd y Pwyllgor i anfon cwestiynau ychwanegol gan yr Aelodau at y tyst, a chytunodd y tyst i’w hateb ac i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor. |
|
(11.00-11.45) |
Ymchwiliad i Bresenoldeb ac Ymddygiad: sesiwn graffu Uwch-arolygydd Liane Bartlett, Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Croesawodd y Cadeirydd Uwch-arolygydd Liane Bartlett, Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru, i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tyst. Cam i’w gymryd: Cytunodd y Pwyllgor i anfon cwestiynau ychwanegol gan yr Aelodau at y tyst, a chytunodd y tyst i’w hateb ac i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am y gwaith adfer y mae’r heddlu yn ei wneud fel rhan o’r Protocol Trechu Troseddau Mewn Ysolion, lle mae plant yn cael eu cefnogi yn hytrach na’u cosbi o ganlyniad i ddigwyddiadau yn yr ysgol. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn Eitem 6 Cofnodion: 5.1 Cytunwyd ar y cynnig. |
||
Blaenraglen Waith y Pwyllgor Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith. |