Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Gareth Williams Deputy Clerk: Ruth Hatton
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan David Melding AC. Cafodd Eluned Parrott ei hethol yn Gadeirydd
dros dro. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Suzy Davies AC a Simon
Thomas AC. Dirprwyodd Paul Davies AC a
Jocelyn Davies AC ar eu rhan. |
|
Tystiolaeth mewn perthynas â’r Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (Amser a
ddynodwyd: 1.30pm) Leighton
Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil CLA(4)-23-14
–Papur 1 – Datganaid o
Fwriad Polisi CLA(4)-23-14
– Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil CLA(4)-23-14
– Nodyn
Cyngor Cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Leighton Andrews AC, y
Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Aelod sy’n gyfrifol am y Bil. |
|
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 CLA(4)-23-14 –
Papur 2 – Offerynnau
statudol sydd ag adroddiadau clir Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon ag ef. |
|
CLA446 – Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2014 Y
weithdrefn negyddol; Gwnaed ar: 5 Medi
2014; Gosodwyd ar: 5 Medi 2014; Yn dod i rym ar: 1 Hydref 2014. |
|
Papurau i’w nodi |
|
Datganiad Ysgrifenedig: Cŵn CLA(4)-23-14
– Papur 3 – Datganiad Ysgrifenedig ar gyfer y Dirprwy Weinidog
Ffermio a Bwyd Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig. Cafwyd datganiad o fuddiant gan Alun Davies
AC. |
|
Datganiad Ysgrifenedig: Canlyniad Refferendwm yr Alban a’r Goblygiadau i Gymru CLA(4)-23-14 – Papur 4 – Datganiad ysgrifenedig gan Brif Weinidog Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a chytunodd i
drafod y mater hwn ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: (ix)
any matter relating to the internal business of the Committee, or of the
Assembly, is to be discussed. Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod mewn
sesiwn breifat. |
|
Papur Barn: Y Goruchaf Lys CLA(4)-23-14
– Papur 5 |
|
Adolygu rôl Comisiynydd Plant Cymru CLA(4)-23-14
– Papur 6 |