Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Senedd

Cyswllt: Abigail Phillips  Dirprwy Glerc: Sarita Marshall

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09:30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

09:30-09:40

2.

Deisebau newydd

2.1

P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: 

Ysgrifennu at y Gweinidog ac at Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru er mwyn cael eu barn gychwynnol ar y ddeiseb;

Ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn a fyddai’r Pwyllgor hwnnw’n fodlon ystyried gwneud gwaith ar y mater hwn;

Cyfeirio’r deisebwyr at adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans;

Ysgrifennu at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ofyn a yw’n bwriadu ailedrych ar yr adroddiad ar amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans yn y dyfodol.

 

2.2

P-04-364 Ffibr optig i ardaloedd gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

Wneud cais am y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Llywodraeth yn y maes hwn, yn benodol mewn perthynas â’r pwyntiau a godwyd yn y ddeiseb;

Ysgrifennu at Ofcom i gael ei farn ar y ddeiseb.

 

09:40-10:30

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-354 Datganiad cyhoeddus yn cefnogi Bradley Manning

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol, rhoddodd Bethan Jenkins y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ei Datganiad o Farn ar y mater a godir yn y ddeiseb. Dywedodd y byddai’n rhoi gwybod i ymgyrch Bradley Manning pryd y bydd cyfarfod nesaf y grŵp trawsbleidiol yn cael ei gynnal.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd er mwyn tynnu ei sylw at y ddeiseb.

 

3.2

P-04-352 Galwad i Achub Golchdy Stêm y Rhath

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn sgîl y ffaith bod y deisebwyr wedi rhoi gwybod i’r tîm clercio bod yr adeilad bellach yn cael ei ddymchwel, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 

3.3

P-04-340 Creu ardal fenter yng Nghasnewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth a dogfennau yn ymwneud â’r ddeiseb hon.

 

Cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw’r deisebydd at ddatganiadau’r Gweinidog ar y mater hwn ac i’w gynghori bod y Pwyllgor, yn sgîl datganiadau clir y Gweinidog ar y mater hwn, yn bwriadu cau’r ddeiseb oni bai bod y deisebydd o’r farn bod rhywbeth arall y gall y Pwyllgor wneud yn ei chylch.

 

3.4

P-03-315 Deiseb i Gael Croesfan Newydd dros Afon Dyfi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb hon a chytunodd i:

Wneud cais am amserlen ddangosol ar gyfer y gwaith a grybwyllwyd yng ngohebiaeth y Gweinidog; a

Gwneud cais bod y Gweinidog yn ymrwymo’n bendant i ymweld â’r groesfan bresennol.

 

3.5

P-03-085 Meddygfeydd yn Sir y Fflint

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn ceisio cael eglurder ar y sefyllfa, ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed.

3.6

P-03-280 Ysbyty Brenhinol Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb a chytunodd i roi gwybod i’r deisebwyr am ei benderfyniad i gau’r ddeiseb oni bai bod ymateb yn dod i law ganddynt erbyn canol mis Mawrth 2012.

 

3.7

P-03-295 Kyle Beere - Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb a chytunodd i:

Gynnal sesiwn dystiolaeth lafar ar y materion a godir yn y ddeiseb;

Ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn tynnu ei sylw at y materion a godir yn y ddeiseb.

3.8

P-04-334 Uned arennol newydd yn Ysbyty Tywysog Siarl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ymweliad rapporteur ag uned arennol Ysbyty'r Tywysog Siarl a chytunodd i:

Gynnal ymweliad â’r uned arennol ym Mhentwyn, Caerdydd, gan estyn gwahoddiad i unrhyw gleifion yn uned Ysbyty'r Tywysog Siarl a hoffai fynd iddo;

Ysgrifennu at y Gweinidog gan wneud cais am y wybodaeth ddiweddaraf am yr achos busnes dros fuddsoddi cyfalaf yn Ysbyty'r Tywysog Siarl.

 

3.9

P-04-348 Targedau ailgylchu ar gyfer byrddau iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb a chytunodd i:

Wneud cais am amserlen gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llunio’r cynllun sector a grybwyllwyd yng ngohebiaeth y Gweinidog;

Gwneud cais am fanylion gan y Gweinidog ynghylch y mathau gwahanol o wastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi a chyfran y gwastraff sy’n cael ei drin yn y modd hwn; a

Chomisiynu darn byr o waith ymchwil ar y mater gan Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad Cenedlaethol.

 

3.10

P-03-143 Ysgol Penmaes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn sgîl y diffyg ymateb a gafwyd gan y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 

Gohiriwyd y cyfarfod rhwng 10.08 a 10.31 o dan Reol Sefydlog 17.47

10.30-11.00

4.

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau - sesiwn dystiolaeth lafar

4.1

P-04-331 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cynghorau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor ar y mater a godir yn y ddeiseb.

4.2

P-04-332 Manylion am wariant dros £500 gan Awdurdodau Lleol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor ar y mater a godir yn y ddeiseb, a chytunodd i rannu manylion am yr effaith a’r buddion a brofwyd gan awdurdodau lleol sydd wedi dechrau cyhoeddi manylion am eu gwariant.

Trawsgrifiad