Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.1
Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. 1.2
Talodd y Cadeirydd deyrnged i waith y cyn Gadeirydd,
Christine Chapman, a chroesawodd Joyce Watson fel aelod newydd
o’r Pwyllgor. |
|
Deisebau newydd |
|
P-04-321 Gwasanaethau Trenau Arriva Cymru rhwng de-orllewin Cymru a de-ddwyrain Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ddisgwyl am ymateb y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. · Ysgrifennu at Drenau Arriva Cymru i ofyn am ei farn am y ddeiseb. · Ysgrifennu at Passenger Focus i ofyn am ei farn am y ddeiseb. |
|
P-04-327 Cadwch Ein Hysbyty Cymuned Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ddisgwyl am ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; · Ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan i ofyn am ei farn am y ddeiseb. |
|
P-04-328 Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau: Cynigion i foderneiddio gwasanaethau gwylwyr y glannau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf. Datganodd Joyce Watson, William Powell a Bethan Jenkins fuddiant gan eu bod wedi cefnogi deisebau ar bynciau cysylltiedig. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ddisgwyl am ymateb y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth. · Ysgrifennu at Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol a’r undebau llafur perthnasol eraill sydd â diddordeb yn y mater i ofyn am eu barn am y ddeiseb; · Ysgrifennu at y cyrff twristiaeth perthnasol yn Sir Benfro i ofyn am eu barn am y ddeiseb; · Ysgrifennu at Grŵp Morol Sir Benfro i ofyn am ei farn am y ddeiseb; · Ysgrifennu at awdurdodau lleol Sir Benfro, Ynys Môn ac Abertawe i ofyn am eu barn am y ddeiseb; · Ysgrifennu at Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro i ofyn am ei farn am y ddeiseb. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-03-143 Ysgol Penmaes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am farn y deisebwyr am y wybodaeth a gasglwyd hyn yn hyn, yn enwedig eu barn am a fydd yr arian sy’n cael ei ddarparu gan y Gweinidog yn ddigon i wella gwasanaethau gwledig. |
|
P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am faint o bobl sy’n cydymffurfio â’r Safonau Canser Cenedlaethol ar hyn o bryd ac i ofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i sicrhau y ceir cydymffurfio llawn ledled Cymru; · Ystyried ymateb mwy cyhoeddus i ddiffyg cydymffurfio â’r Safonau Canser Cenedlaethol, yn ddibynnol ar ateb y Gweinidog, ac o gofio dyfalbarhad y Pwyllgor gyda’r ddeiseb hon; ·
Ystyried gwahodd y deisebwyr i roi tystiolaeth
lafar mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
P-03-153 Celf Corff Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am farn y deisebwyr am yr ohebiaeth a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|
P-03-156 Dal anadl wrth gysgu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn a oedd pawb wedi cydymffurfio â’r Cyfarwyddebau Salwch Anadlol Cronig erbyn y dyddiad olaf ar gyfer gwneud hynny, ac i ofyn am fwy o fanylion ynghylch sut y bydd cydymffurfio llawn yn arwain at welliannau mewn gwasanaethau i ymdrin â dal anadl wrth gysgu. |
|
P-03-170 Cynyddu nifer y bobl ag anableddau dysgu a gyflogir gan y sector cyhoeddus yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad i ofyn a ellir hysbysu’r Pwyllgor ynghylch y penderfyniadau ar ddyfodol ei gynllun lleoliad gwaith; · Ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Datblygu a Gweithredu; · Ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am eu trafodaethau gyda’r Grŵp Datblygu a Gweithredu. |
|
P-03-187 Diddymu'r Tollau ar ddwy Bont Hafren Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn a ellir hysbysu’r Pwyllgor pan fydd y gwaith effaith economaidd wedi’i gwblhau, pryd y bydd hynny’n debygol o ddigwydd a pha ddulliau a thechnegau mesur a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth effaith; · Ailystyried y ddeiseb pan fydd yr astudiaeth effaith economaidd wedi’i gwblhau. |
|
P-03-188 Uned Gofal Arbennig i Fabanod Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a chyhoeddi adroddiad terfynu cryno. |
|
P-03-204 Atebolrwydd i'r cyhoedd ac ymgynghoriadau cyhoeddus ym maes Addysg Uwch Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu ymateb i argymhellion yr Arolwg ar Lywodraethiant Addysg Uwch, i nodi pryderon y deisebwyr ynghylch y diffyg ymgynghori yn y sector addysg uwch, ac i ofyn sut y bydd y Llywodraeth yn ystyried pryderon y deisebwyr wrth symud ymlaen. |
|
P-03-205 Cadwch Farchnad Da Byw y Fenni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i: · Amlygu pryderon y deisebwyr ynghylch y broses ymgynghori ac i ofyn am sicrwydd y bydd y deisebwyr yn cymryd rhan mewn unrhyw ymgynghoriad pellach; · Gofyn am ragor o wybodaeth am sut y bydd yr arolwg ar ddiddymu’r Deddfau Gwella yn cael ei gynnal. |
|
P-03-219 Fferyllfeydd yn y Barri Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am fwy o fanylion ynghylch canfyddiadau’r grŵp gorchwyl a gorffen a sut y gallai hyn fynd i’r afael yn uniongyrchol â’r materion a godwyd yn y ddeiseb hon. |
|
P-03-220 Gostyngwch y terfyn cyflymder ar yr A40 ger y Fenni Dogfennau ategol: |
|
P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y deisebau hyn. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn a gynhaliwyd yr arolygon ar derfynau cyflymder ac, os y gwnaed hynny, beth oedd y canfyddiadau, ac i bwysleisio’r angen am ateb brys i’r mater o wella diogelwch ar y ffordd. |
|
P-03-221 Gwell triniaeth traed drwy'r GIG Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ganfyddiadau’r ymgynghoriad ac i amlygu pryderon y deisebwyr ynghylch amseriad y broses ymgynghori. |
|
P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith i ddatblygu gwasanaethau cwympo a thorri esgyrn, ac i ofyn a oes gan yr holl fyrddau iechyd lleol gynlluniau i gyflwyno Gwasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn, neu a fydd ganddynt gynlluniau o'r fath, yn ogystal â gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr arolwg o'r Fframwaith Gwasanaethau Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn. |
|
P-03-253 Mabwysiadu carthffosydd preifat Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a chyhoeddi adroddiad terfynu, gan fod dibenion y ddeiseb wedi cael eu bodloni. |
|
P-03-260 Yr Ymgyrch dros Ffurfafen Dywyll Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at y Gweinidog sy’n gyfrifol am drafnidiaeth, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, i nodi enghreifftiau o ddefnydd gormodol o olau stryd ac i ofyn a yw Llywodraeth Cymru’n ystyried y defnydd o oleuadau ar y stryd sy’n diffodd yn llwyr. · Ysgrifennu at y Gweinidog sy’n gyfrifol am gynllunio, y Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, i ofyn am wybodaeth am faint o awdurdodau lleol sy’n mynd i’r afael â llygredd golau yn eu cynlluniau datblygu, ac i ofyn iddo ystyried mabwysiadu dull gweithredu mwy strategol i ymdrin â llygredd golau drwy gyhoeddi canllawiau ar y polisi cynllunio. · Ysgrifennu at y Gymdeithas Frenhinol Er Atal Damweiniau i ofyn am ei barn ynghylch effaith defnyddio mathau amgen o oleuadau ar strydoedd a chefnffyrdd ar agweddau ar ddiogelwch ffordd. |
|
P-03-261 Atebion lleol i dagfeydd traffig yn y Drenewydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am farn y deisebwyr am yr ohebiaeth a gafwyd gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. |
|
P-03-262 Academi Heddwch Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon Camau i’w cymryd · Y Clerc i ganfod a allai’r Llywydd gomisiynu gwaith ymchwil ar rôl, swyddogaeth a chwmpas posibl sefydliad o’r fath. · Ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn a allant gomisiynu gwaith ymchwil ar rôl, swyddogaeth a chwmpas sefydliad o’r fath. |
|
P-03-265 Cynnwys gwybodaeth ac addysg am adael gartref yn y Cwricwlwm Cenedlaethol - Shelter Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ac i gyhoeddi adroddiad terfynu. |
|
P-03-268 Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Aneurin Bevan Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ac i gyhoeddi adroddiad terfynu. |
|
P-03-271 Ardrethi Busnes yn Arberth Dogfennau ategol: |
|
P-03-286 Ardrethi Busnes Ceredigion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y deisebau hyn. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Menter a Busnes i ofyn a fyddai’n ystyried y materion a godwyd yn y ddeiseb mewn ymchwiliad yn y dyfodol. |
|
P-03-273 Cludo tyrbini gwynt yn y Canolbarth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio’r ddeiseb i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i’w ystyried ymhellach · Y Clerc i ganfod a yw’r cyfrifoldeb dros agweddau cludo ar ddatblygiadau ffermydd gwynt sydd dros 50MW wedi’i gadw gan Lywodraeth y DU · Yn ddibynnol ar yr ateb, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd i ofyn am ei barn ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb. |
|
P-03-280 Ysbyty Brenhinol Caerdydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a’r Fro i ofyn pam na allodd y deisebwyr weld y cynlluniau ac i ofyn am sicrwydd y bydd yn ymgysylltu’n llwyr â’r gymuned yn y dyfodol. |
|
P-03-283 Codi tâl gan y GIG i drin cleifion a'u cludo i'r ysbyty mewn achosion sy'n ymwneud ag alcohol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd ·
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ac i gyhoeddi adroddiad terfynu. |
|
P-03-291 Datblygu Gwasanaethau Gwybodaeth am HIV ac Iechyd Rhywiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ac i gyhoeddi adroddiad terfynu. |
|
P-03-296 Cynigion annheg ar fenthyciadau i fyfyrwyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd ·
Cytunodd
y Pwyllgor i ysgrifennu at
y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am fwy o fanylion ynghylch y cyfraddau llog amrywiol a godir ar raddedigion
ar eu benthyciadau
myfyrwyr ac ynghylch ehangu’r cymalau mynediad ar gyfer
y sefydliadau hynny sy’n dymuno codi
ffi uwch, ac i ofyn sut y bydd
cynlluniau ffioedd newydd sefydliadau addysg uwch yn
effeithio ar y pryderon a fynegwyd yn y ddeiseb. |
|
P-03-301 Cydraddoldeb i'r Gymuned Drawsryweddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i nodi’r pryderon ynghylch yr oedi o ran cyfeirio cleifion i wasanaethau iechyd hunaniaeth o ran rhywedd ac i ofyn a ellid dosbarthu’r canllawiau ar bryder ynghylch rhywedd i feddygon teulu. · Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gymdeithas Feddygol Prydain i ofyn a oes gan feddygon teulu hyfforddiant digonol i helpu cleifion sydd o bosibl yn dioddef o bryder ynghylch rhywedd. |
|
P-03-303 Yn Erbyn Bwlio Homoffobig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y deisebwyr i’w hysbysu ynghylch yr amserlen sydd wedi’i chynllunio ar gyfer cyhoeddi canllawiau ac i ofyn am eu barn am y canllawiau ar ôl eu cyhoeddi.
|
|
P-03-304 Gwelliant i'r Mesur ynghylch Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am farn y deisebwyr am yr ohebiaeth a gafwyd gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. |
|
P-03-305 Llyfrgelloedd Ysgol Statudol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i ofyn a fyddai’n ystyried ymchwilio ymhellach i’r mater · Ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn a fyddai’n ystyried llunio papur safbwynt newydd ar lyfrgelloedd ysgolion a chyfres o Safonau ar Lyfrgelloedd Ysgolion · Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i ofyn beth fyddai goblygiadau’r ddeiseb o ran gwaith llyfrgelloedd cyhoeddus. |
|
P-03-307 Dylunio er mwyn arloesi yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at y Pwyllgor Menter a Busnes i ofyn a fyddai’n ystyried gwneud rhagor o waith ar y materion a godwyd yn y ddeiseb. |
|
P-03-310 Polisiau'n sy'n Helpu i Ddiogelu Anghenion a Hawliau Disgyblion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: · Ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn am eu barn am y ddogfen sy’n ymateb i’r ymgynghoriad ac i ofyn iddynt egluro’r geiriau ‘i’w gwneud yn fwy cadarn, yn gryfach ac yn haws i’r cyhoedd fod yn rhan ohoni’ yn eu deiseb · Ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgynghoriad ar gyfleoedd deddfu i weithredu’r newidiadau i’r broses o drefnu ysgolion ac i nodi’r meysydd y mae’r deisebwyr yn credu sy’n annigonol.
|
|
P-03-313 Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cwn) (Cymru) 2011 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd ·
Cytunodd y Pwyllgor i hysbysu’r deisebwyr ynghylch y ffaith y bydd Llywodraeth
Cymru’n cynnal trafodaethau â rhanddeiliaid i nodi’r pryderon ynghylch y ddeddfwriaeth ddrafft wreiddiol, gyda’r bwriad, o bosibl, o gynnwys eu hawgrymiadau mewn deddfwriaeth ddrafft newydd. |
|
P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Pwyllgor i ddisgwyl i’r Adroddiad Datblygu Opsiynau gael ei gyhoeddi. |
|
P-04-324 Dywedwch Na i Tan 8 - Mae ffermydd gwynt a llinellau pwer foltedd uchel yn difetha ein cymuned Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i ofyn a fyddai’n ystyried cynnal ymchwiliad pellach i’r materion a godir yn y ddeiseb. |
|
Trawsgrifiad Er mwyn gweld y trawsgrifiad, cliciwch yma.
|