Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kathryn Thomas
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF182KB) Gweld
fel HTML (147KB). |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins a Russell George. Dirprwyodd Elin Jones ar ran Bethan Jenkins yn unol â Rheol Sefydlog 17.48. |
|
Deisebau newydd |
|
P-04-661 Gwahardd Defnydd Ar-lein a Phleidleisio Electronig gan Aelodau Cynulliad yn Siambr y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i anfon
sylwadau'r deisebwyr at y Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad i gael eu barn. |
|
P-04-662 Mae’n anodd amgyffred sut y byddai bywyd wedi bod heb fy Ngweithiwr Cymorth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros i glywed
barn y deisebydd ar lythyr y Gweinidog. |
|
P-04-663 Bwyd yn Ysbytai Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at: ·
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn ei farn am sylwadau'r
deisebydd; a'r ·
Byrddau Iechyd Lleol i gael eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb. |
|
P-04-664 Datblygwch Fferm Tynton yn Ganolfan Ymwelwyr a Gwybodaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros i glywed
barn y deisebydd ar lythyr y Gweinidog. |
|
P-04-666 Democratiaeth mewn Llywodraeth Leol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys. Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i: ·
Ofyn i'r deisebydd ystyried ymateb i'r ymgynghoriad ar y Bil Llywodraeth
Leol (Cymru) drafft fel y gellir ystyried ei safbwynt yn y broses honno; ·
Gofyn i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol (CCLlL)
ystyried barn y deisebwr pan fydd yn ystyried y Bil drafft; a ·
Chau'r ddeiseb. |
|
P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at
y Gweinidog i gael ymateb i sylwadau'r deisebydd. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth a gafwyd gan awdurdod Parc Cenedlaethol
Bannau Brycheiniog a chytunwyd i ysgrifennu atynt eto i ofyn am y newyddion
diweddaraf am y sefyllfa. |
|
P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu
at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i: ·
groesawu ei ymateb; ·
gofyn iddo hysbysu'r Pwyllgor o fanylion pellach yr ymgynghoriad
arfaethedig fel y gall y deisebwyr gyfrannu ato; a ·
cheisio cael sicrwydd y bydd yr ymgynghoriad yn ymgynghoriad cyhoeddus i
sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn cael y cyfle i gyfrannu. |
|
P-04-623 Wella’r Ddarpariaeth o Dai sy’n Addas i Bobl Anabl yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau'r
ddeiseb, o ystyried yr ymgysylltiad cadarnhaol rhwng y Gweinidog a'r deisebwyr. |
|
P-04-653 Gwahardd y Defnydd o Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunwyd i gau'r ddeiseb gan
ei bod, mewn gwirionedd, wedi cyflawni ei diben. |
|
P-04-500 Galw am Reoleiddio Sefydliadau Lles Anifeiliaid yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: ·
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau’r ddeiseb
o ystyried bod yr awdurdodau perthnasol wedi mynd i'r afael â'r materion a
sbardunodd y ddeiseb wreiddiol. |
|
P-04-397 Cyflog Byw Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a, gan fod y Llywodraeth
wedi derbyn y ddeiseb mewn egwyddor; y camau sy'n cael eu cymryd drwy Gyngor
Partneriaeth y Gweithlu, ac nad yw'r bobl ifanc a oedd yn rhan o gyflwyno'r
ddeiseb yn rhan o hyn bellach; i gau'r ddeiseb.
|
|
P-04-631 Achub ein Gwasanaeth - Achub Anifeiliaid Mawr yng Ngogledd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i'w chau. |
|
P-04-650 Cael Gwared ar Gyflogau Cynghorwyr Llywodraeth Leol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys. Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus a
chytunwyd i gau’r ddeiseb. |
|
P-04-468 Pryderon am Ddiogelwch Ffordd A48 Cas-gwent Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunwyd i ysgrifennu
at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn iddi ymateb i i
sylwadau'r deisebydd. |
|
P-04-556 Na i gau Cyffordd 41 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth a chytunwyd i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd. |
|
P-04-657 Codi Tâl am Barcio a'r Berthynas â Strydoedd Mawr a'u Llwyddiant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth a chytunwyd i gau'r ddeiseb. |
|
P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a, gan fod prif amcanion
y ddeiseb wedi'u cyflawni, cytunwyd i'w chau. |
|
P-04-523 Diogelu'r henoed a phobl sy'n agored i niwed mewn cartrefi gofal Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau'r
ddeiseb, ar gais y deisebydd. |
|
P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i anfon
sylwadau'r deisebwyr, ynghyd â deunydd ychwanegol a ddarparwyd, at y Gweinidog
a gofyn iddi eu rhannu â PHE-CRCE, cyn penderfynu a ddylid cau'r ddeiseb. |
|
P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i rannu
sylwadau'r deisebydd â'r Gweinidog ac yna ystyried cau'r ddeiseb. |
|
P-04-587 Tîm Cymorth pwrpasol ar gyfer dioddefwyr Enseffalomyelitis Myalgig (ME), Syndrom Blinder Cronig a Ffibromyalgia yn ne-ddwyrain Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a, gan y rhan fwyaf o'r
camau gweithedu y gwneir cais amdanynt yn y ddeiseb wedi'u cyflawni, cytunwyd: ·
i gau'r ddeiseb; ac ·
wrth wneud hynny, ddwyn sylwadau'r deisebydd i sylw'r Gweinidog. |
|
P-04-608 Ymchwiliad i'r GIG yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol a chytunwyd i gau’r ddeiseb. |
|
P-04-638 Y Gwasanaethau Brys - Pŵer Mynediad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG
Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a chytunwyd i gau'r ddeiseb. |
|
P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan y Gweinidog Cymunedau
a Threchu Glodi a gan Blant yng Nghymru a chytunwyd i: ·
Gau'r ddeiseb; ac ·
Wrth wneud hynny, gofyn i Plant yng Nghymru ymateb i sylwadau diweddaraf y
deisebwyr. |
|
P-04-643 Diogelu Dechrau'n Deg yng Nghroeserw Dogfennau ategol: Cofnodion: Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.21. |
|
P-04-645 Achub Dechrau'n Deg Glyncorrwg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gweithredu dros Blant ynghylch y ddeiseb
hon a P-04-643 Arbed Dechrau'n Deg yng Nghroeserw a chytunwyd i gau'r ddwy
ddeiseb. |
|
P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol Dogfennau ategol: Cofnodion: Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.23. |
|
P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu
at y Gweinidog yn diolch iddo am ei ymgysylltiad hyd yn hyn a gofyn iddo
hysbysu'r Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf o ran unrhyw ymatebion, yn
enwedig gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. |
|
P-04-651 Gweithio i Amddiffyn Llywodraeth Leol wrth Bennnu Cyllidebau yn yr Hydref Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i: ·
Ofyn i'r Pwyllgor Cyllid ystyried pwyntiau pellach y deisebwyr; a ·
Chau'r ddeiseb. |
|
P-04-656 Sefydlu Diwrnod Gwrthwynebwyr Cydwybodol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunwyd i ysgrifennu at
y Llywydd a'r Prif Weinidog yn unol â thermau cais y deisebydd. |