Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC, ac roedd Lindsay Whittle AC yn dirprwyo ar ei rhan.

 

2.

Sesiwn dystiolaeth

P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol

 

·         Bethany Walpole

·         Helen Weedon

 

P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn

 

·         Jane Douglas

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y tystion gwestiynau gan y Pwyllgor.

 

3.

Deisebau newydd

3.1

P-04-642 Achubwch Brosiect Filter - Ymgyrch a Sefydlwyd i Atal Pobl Ifanc Rhag Ysmygu ac i'w Helpu i Roi'r Gorau Iddi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo roi ystyriaeth lawn i'r cynnig am gyllid a'i fod yn rhoi gwybod y canlyniad i'r Pwyllgor.

 

3.2

P-04-634 Rhoi terfyn ar wahaniaethu yn erbyn plant heb grefydd mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ofyn i'r Gweinidog wneud sylwadau pellach ar lythyr y deisebydd.

 

 

3.3

P-04-644 Dyfodol Addysg Bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at y canlynol:

 

  • y Dirprwy Weinidog yn gofyn am ei barn ar y goflen gynhwysfawr a ddarparwyd gan y deisebwyr; a
  • Chydffederasiwn Diwydiant Prydain/Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn gofyn a oes rhywun wedi gofyn am eu barn ar allu busnesau i gyfrannu cyllid ychwanegol at ddarpariaeth hyfforddiant sgiliau.

 

 

3.4

P-04-646 Deiseb yn erbyn canllawiau anstatudol yng Nghymru ar gyfer awdurdodau lleol ar Addysg Ddewisol yn y Cartref.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo:

 

·         sicrhau y caiff sylwadau manwl y deisebydd eu hystyried wrth ddatblygu canllawiau diwygiedig; a

·         rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor a'r deisebydd am ddatblygu canllawiau terfynol.

 

3.5

P-04-647 Newid yr oedran y mae'n rhaid talu am docyn oedolyn o 16 i 18.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog.

 

 

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

4.1

P-04-625 Cefnogaeth i Fil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau’r ddeiseb oherwydd:

 

  • yr argymhelliad i wneud hynny gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol;
  • nid oes unrhyw reswm i gredu na fydd ystyriaeth Cyfnod 2 yn mynd yn ei blaen; a
  • nid yw ystyriaeth fanwl o welliannau Cyfnod 2 a chyfnodau diweddarach yn addas ar gyfer trafod deiseb ar egwyddorion cyffredinol (sydd wedi'u cytuno beth bynnag).

 

 

4.2

P-04-537 Plannu Coed i Leihau Llifogydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog.

 

4.3

P-04-550 Pwerau Cynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog.

 

4.4

P-04-623 Wella’r Ddarpariaeth o Dai sy’n Addas i Bobl Anabl yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunwyd i ofyn am ymateb gan y Gweinidog i sylwadau manwl ac ystyriol y deisebydd. 

 

4.5

P-04-617 Stopiwch y Trosglwyddo Dilyffethair o Lyfrgelloedd Cyhoeddus i'r Sector Gwirfoddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog.

 

4.6

P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog.

 

4.7

P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog.

 

4.8

P-04-514 Dylid adeiladu gorsaf bŵer sy'n defnyddio glo glân o Gymru a/neu gorsaf ynni adnewyddadwy yn hytrach na gorsaf niwclear arfaethedig Wylfa B ar Ynys Môn.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

 

·         gau'r ddeiseb gan fod llawer o sylwadau'r deisebydd yn ymwneud a materion heb eu datganoli; a

·         drwy wneud hynny, dwyn sylwadau pellach y deisebydd i sylw'r Gweinidog. 

 

4.9

P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i anfon sylwadau'r deisebydd at y Gweinidog a chau'r ddeiseb. 

 

 

 

4.10

P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau eu hymweliad â'r Gyfnewidfa Lo bythefnos yn gynharach a chytunwyd i ofyn i'r Gweinidog am ei barn ar sylwadau Mr Avent ac a oes unrhyw ddatblygiadau eraill i'w nodi.

 

4.11

P-04-556 Na i gau Cyffordd 41

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn:

 

  • am ei barn ar sylwadau pellach y deisebydd a gofyn iddi roi gwybod i'r Pwyllgor am unrhyw ddatblygiadau;
  • caniatáu i'r Pwyllgor weld y cyngor gan swyddogion y mae wedi seilio ei phenderfyniadau arno i barhau gyda'r achosion o gau dros dro wrth iddi benderfynu sut i fynd yn ei blaen; a
  • pam y cafodd y penderfyniad ei wneud i gau cyffordd 41, pan mae mannau prysur posibl eraill ar yr M4.

 

 

4.12

P-04-578 Gwaith Gostegu Sŵn ar yr M4, i’r Gorllewin o Gyffordd 32

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn i'r Gweinidog a fyddai'n bosibl ailwirio'r lefelau sŵn yn nhŷ'r deisebydd er mwyn sicrhau nad ydynt wedi cynyddu ers eu profi ddiwethaf.

 

 

4.13

P-04-599 Effaith Ardrethi Domestig ar Lety Hunan Arlwyo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ei barn ar sylwadau pellach y deisebydd, yn arbennig p'un a roddir ystyriaeth i sicrhau newidiadau'n ôlweithredol, os yw'r dystiolaeth yn gwarantu hynny.

 

 

4.14

P-04-581 Gwrthwynebu’r toriadau yn y ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog.

 

4.15

P-04-399 Arferion Lladd Anifeiliaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 4.16.

 

4.16

P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafodwyd y ddeiseb hon ynghyd â'r ddeiseb flaenorol. Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

 

·         ofyn i'r Dirprwy Weinidog roi gwybod i'r Pwyllgor unwaith y bydd wedi adolygu safbwynt Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm; ac

·         aros am farn y deisebwyr ar ymateb y Gweinidog.

 

 

4.17

P-04-552 Diogelu Plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

 

  • gau'r ddeiseb yn sgil y cyngor cyfreithiol a gafwyd a safbwyntiau blaenorol y Gweinidog; a
  • drwy wneud hynny, dwyn y ddeiseb i sylw Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Item 5 and 6.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

 

6.

Trafod tystiolaeth lafar o dan eitem 2 ar yr agenda.

P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol

 

P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn

 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth gynharach.

 

7.

Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y cynnydd ar adolygu'r system ddeisebau.