Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

2.1

P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am:

 

·         ei sylwadau pellach yng ngoleuni barn y deisebwr; ac am

·         ddiweddariad ar y sefyllfa yn ymwneud ag adnewyddu'r Gwasanaeth Premier rhwng y Gogledd a'r De, sydd i fod i gael ei adnewyddu ym mis Mai a phryd y mae hi'n debygol o allu gwneud cyhoeddiad ar y gwasanaeth cyflym rhwng y Gogledd a'r De.

 

2.2

P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog am y wybodaeth ddiweddaraf ar y Cyswllt â Maes Awyr Caerdydd.

 

2.3

P-04-599 Effaith Ardrethi Domestig ar Lety Hunan Arlwyo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ddiweddariad brys ar y mater a gofyn am eglurhad ar:

 

·         a oes gwaith ar y gweill i ddiwygio'r Effaith Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2010 yn dilyn adroddiad Y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw a'r ymgynghoriad dilynol (fel y nodwyd i Gyngor Twristiaeth Cymru); ac

·         yng ngoleuni hyn i egluro'r datganiad ym mharagraff olaf ei llythyr ar 10 Hydref fod '... gweithdrefnau sydd ar waith ar hyn o bryd yn ddigonol ac nid oes angen gweithredu pellach.'

 

2.4

P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, Byrddau Iechyd Lleol ac at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am y telerau y gofynnodd y deisebwyr amdanynt. Hefyd, i ysgrifennu at Brif Swyddog Gweithredol newydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Steve Moore, yn gofyn am sicrwydd ynghylch y patrymau diweddaraf o ran amseroedd diagnosis ar gyfer awtistiaeth yn Sir Benfro, sy’n ymddangos fel eu bod wedi gwaethygu, ar ôl gwella i ddechrau.

 

2.5

P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn pa gynlluniau sydd yna i ddarparu offer i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gynnal triniaethau gyda chymorth robotig, ac i gael gwybodaeth am y system sydd ar y gweill ym Manceinion ar hyn o bryd. Hefyd, i gael eglurder am y goblygiadau o ran cost i’r Bwrdd Iechyd o barhau i anfon cleifion i Fanceinion.

2.6

P-04-501 Gwneud canolfannau dydd ar gyfer pobl hŷn yn ofyniad statudol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb gan y deisebydd.  

 

2.7

P-04-527 Ymgyrch i gael Cronfa Cyffuriau Canser Arbennig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y deisebydd i ofyn iddo fynegi cydymdeimlad y Pwyllgor â theulu Beth Margetson; ac

·         aros am ymateb gan y deisebydd ar yr ohebiaeth Weinidogol. 

 

2.8

P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

  • y Byrddau Iechyd a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i ofyn iddynt ystyried y camau penodol y mae llythyr y deisebydd yn galw amdanynt;
  • y Gweinidog yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar y mater nawr bod apwyntiad yn ei le; ac
  • y Grŵp trawsbleidiol ar Gyflyrau Dystroffi'r Cyhyrau a Niwrogyhyrol fel eu bod yn ymwybodol o'r sefyllfa ddiweddaraf.

 

 

2.9

P-04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn i'r deisebydd a oes ganddo unrhyw sylwadau ar yr ymchwiliad y mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ymgymryd ag ef ar hyn o bryd; ac

·         aros am ganlyniad ystyriaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.  

 

2.10

P-04-571 Trin Anemia Niweidiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ddiolch i'r Gweinidog am ei ymateb adeiladol a gofyn iddo hysbysu'r Pwyllgor o ganlyniad ei:

 

·         lythyr at Jane Ellison AS, Is-Ysgrifennydd Seneddol ar Iechyd mewn perthynas â chefnogaeth i ddatblygu triniaeth drwyddedig drwy'r geg yn gyflym; a

·         chais i NIHCE i ystyried datblygu cyngor i glinigwyr.  

 

2.11

P-04-583 Gwahardd Tyfu a Gwerthu unrhyw Hadau / Bwydydd a Phorthiant Anifeiliaid / Pysgod GM yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni eglurhad y Gweinidog na all Llywodraeth Cymru'n gyfreithlon wahardd cnydau GM yng Nghymru.

 

2.12

P-04-603 Helpu Babanod 22 Wythnos Oed i Oroesi.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn:

 

  • i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Bwrdd Iechyd i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sydd ar y gweill i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o'r achos hwn yn y dyfodol;
  • i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ystyried a oes angen ymchwiliad i'r canllawiau cyfredol ar adfywio plant a anwyd cyn pryd; ac
  • i'r deisebydd i ofyn a oes cofnod ffurfiol o'r cyfarfod a gynhaliwyd gyda'r Cynghorwr ar Iechyd Mamau a Phlant ac a fyddai hi'n fodlon rhannu hynny gyda'r Pwyllgor.

 

 

 

 

2.13

P-04-607 Galw ar Lywodraeth Cymru i brynu Garth Celyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i ystyried y mater o bosibl fel rhan o'i ystyriaeth o'r Bil Treftadaeth (Cymru) arfaethedig. 

 

2.14

P-04-500 Galw am Reoleiddio Sefydliadau Lles Anifeiliaid yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am ganlyniad y camau a amlinellwyd gan y Gweinidog, ond i ysgrifennu i ofyn iddi hysbysu'r Pwyllgor cyn gynted a bod yna gynnydd pellach. 

 

2.15

P-04-528 Addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn am farn y deisebydd ar ohebiaeth y Gweinidog; a 

·         gwneud penderfyniad ynghylch cau’r ddeiseb. 

 

2.16

P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog sicrhau y bydd y deisebwyr yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ymgynghoriad ar yr adolygiad sydd i ddechrau yn y gwanwyn. 

 

3.

Deisebau anweithredol

3.1

P-03-144 Cŵn Tywys y Deillion - lle sy'n cael ei rannu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn a ydynt yn dymuno parhau â'r ddeiseb; a

·         chau'r ddeiseb os na ddaw ymateb o fewn chwe wythnos.

 

 

3.2

P-03-236 Siarter i Wyrion ac Wyresau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn a ydynt yn dymuno parhau â'r ddeiseb; a
  • chau'r ddeiseb os na ddaw ymateb o fewn chwe wythnos.

 

 

3.3

P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn a ydynt yn dymuno parhau â'r ddeiseb; a
  • chau'r ddeiseb os na ddaw ymateb o fewn chwe wythnos.

 

 

3.4

P-04-504 Diogelwch Cyffordd Pont Maerdy A483

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn a ydynt yn dymuno parhau â'r ddeiseb; a
  • chau'r ddeiseb os na ddaw ymateb o fewn chwe wythnos.

 

 

 

3.5

P-04-512 Rhoi terfyn ar y Cynigion i gwtogi staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn a ydynt yn dymuno parhau â'r ddeiseb; a
  • chau'r ddeiseb os na ddaw ymateb o fewn chwe wythnos.

 

 

3.6

P-04-520 Parthed Canslo pob Llawdriniaeth Orthopedig Ddewisol gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda dros y Gaeaf 2013/14

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn a ydynt yn dymuno parhau â'r ddeiseb; a
  • chau'r ddeiseb os na ddaw ymateb o fewn chwe wythnos.

 

 

(10.00 - 10.30)

4.

P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y tystion a ganlyn gwestiynau gan y Pwyllgor:

 

·         Rob Curtis, Deisebydd a Chadeirydd Cyfeillion Traeth y Barri; a

·         Gill Bell, Rheolwr Rhaglen Cymru, y Gymdeithas Cadwraeth Forol.

 

Cytunodd Rob Curtis i anfon gwybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch y gwaharddiad ar becynnau bwyd polystyren mewn Dinasoedd ar dir mawr Ewrop.

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Item 6.

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

6.

Adolygiad o'r System Ddeisebau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat.