Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro

Cofnodion:

Ar ôl cael ei henwebu gan Russell George AC, etholwyd Bethan Jenkins AC yn Gadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22.

 

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan William Powell AC a Joyce Watson AC. Roedd y ddau yn bresennol yng nghyfarfod y Gymdeithas Seneddol Brydeinig-Wyddelig yn Nulyn. Roedd Gwyn Price AC yn bresennol ar ran Joyce Watson.

 

3.

Trafod y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2015 - P-04-597 Diogelu dyfodol y Ddraig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth gyda Phlant yng Nghymru a gynhaliwyd ar 3 Chwefror, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad i ofyn:

 

·         a oes unrhyw gynnydd pellach wedi’i wneud i sefydlu corff ieuenctid cynrychiadol i olynu y Ddraig Ffynci; ac

·         am wybodaeth am unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd mewn perthynas â’r materion a godwyd yn y ddeiseb.

 

4.

Deisebau newydd

4.1

P-04-617 Stopiwch y Trosglwyddo Dilyffethair o Lyfrgelloedd Cyhoeddus i’r Sector Gwirfoddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn gofyn ei farn am sylwadau pellach y deisebydd.

 

5.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

5.1

P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         Ofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am ei sylwadau ar ohebiaeth Ms Missen;

·         Cadw golwg ar y mater a gofyn i’r Gweinidog am gael gwybod am ddatblygiadau: a

·         Rhoi gwybod i’r deisebydd am yr adolygiad o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed sydd i gael ei lansio ddydd Iau 26 Chwefror, i roi cyfle iddo gyflwyno barn pe bai am wneud hynny.

 

 

5.2

P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, fel y cytunwyd yn flaenorol, penderfynodd ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn ei farn ar:

·         y dystiolaeth a’r wybodaeth a ddarparwyd yn flaenorol gan OFCOM; ac

·         a yw Canolfan Iechyd y Cyhoedd Lloegr ar gyfer Ymbelydredd, Peryglon Cemegol ac Amgylcheddol yn ystyried tystiolaeth o Gymru o ran darparu cyngor i Lywodraeth Cymru.

 

5.3

P-04-586 Holl staff GIG Cymru i gael eu talu ar y gyfradd Cyflog Byw o £7.65 yr awr o leiaf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd, o ystyried bod y deisebydd wedi nodi bod y mater bellach wedi cael ei ddatrys drwy drafodaethau, i gau’r ddeiseb.

 

5.4

P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         Ddwyn sylw’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y mater, i’w ystyried os caiff y Bil Iechyd y Cyhoedd arfaethedig, y disgwylir, ar hyn o bryd, iddo gael ei gyhoeddi cyn toriad yr haf, ei gyfeirio atynt ar gyfer craffu arno; ac 

·         Gofyn i’r Gweinidog am ei farn ar ohebiaeth bellach y deisebydd, yn enwedig ei sylwadau ar ymgysylltiad Llywodraeth yr Alban â’r gymuned rhyddhau anwedd, a’i ddealltwriaeth o’r penderfyniad i beidio â mynd ar drywydd gwahardd e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus yn yr Alban.

 

5.5

P-04-603 Helpu babanod sy’n cael eu geni ar ôl 22 wythnos i oroesi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn bellach y deisebydd yn dilyn ei chyfarfod gyda swyddogion y llywodraeth a oedd i gael ei gynnal ar 18 Chwefror.

 

5.6

P-04-608 Ymchwiliad i’r GIG yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd am lythyr y Gweinidog.

 

5.7

P-04-422 Ffracio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i gael eglurhad ar swm a sylwedd sylwadau a nodwyd yn ddiweddar, yn ôl y sôn, am foratoriwm ar ffracio, nad oes sôn amdanynt yn ei lythyr at y Pwyllgor.

 

5.8

P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrïoedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         Dynnu sylw’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol at sylwadau ychwanegol y deisebwyr: a

·         Chau’r ddeiseb o ystyried bod y ddwy ochr yn derbyn bod gan Gymru hanes da o ran hwsmonaeth anifeiliaid, a’i bod yn hyrwyddo safonau uchel o ran lles anifeiliaid fferm, ac nad oes tystiolaeth glir sy’n dangos bod unrhyw broblem neilltuol yng Nghymru y tu hwnt i’r angen am wyliadwriaeth barhaus.

 

5.9

P-04-579 Adfer cyllid ar gyfer monitro Gwylogod Ynys Sgomer

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ofyn am ei farn ar sylwadau’r deisebydd, yn benodol ar y pryderon a fynegwyd y gall y data a gasglwyd o dan gontract y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur fod wedi dangos canlyniadau diffygiol.

 

 

5.10

P-04-605 Achub Ffordd Goedwig Cwmcarn Rhag Cael ei Chau am Gyfnod Amhenodol neu’n Barhaol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog ofyn i’w swyddogion a Chyfoeth Naturiol Cymru weithio gyda ‘Ffrindiau Ffordd Goedwig Cwmcarn’ wrth ddod o hyd i ateb ar gyfer dyfodol y ffordd.

 

5.11

P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i gau’r ddeiseb o gofio mai’r unig bwynt sy’n weddill yn y mater yw pwynt tri o’r ddeiseb, ac mae’r deisebwyr wedi nodi nad oes ganddynt unrhyw beth pellach y maent am ei ychwanegu.

 

5.12

P-04-566 Adolygu’r Cod Derbyn i Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb o ystyried na chafwyd ymateb gan y deisebydd, ac mae’r Gweinidog wedi darparu ymateb manwl i bob un o’r materion a godwyd yn y ddeiseb. 

 

5.13

P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog cyn ystyried y ffordd orau i symud ymlaen.

 

5.14

P-04-556 Na i gau Cyffordd 41

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth, a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gofyn am ymateb i’r pryderon penodol a amlinellir yng ngohebiaeth y deisebydd, gan gynnwys sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd ar 23 Chwefror.

 

 

5.15

P-04-562 Canolfan Etifeddiaeth Caernarfon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:

 

·         Hwyluso’r cyswllt rhwng y deisebwyr a swyddogion perthnasol yn CADW a Chyngor Sir Gwynedd;

·         Ysgrifennu at bob Aelod yng Ngogledd Cymru yn tynnu eu sylw at y ddeiseb; a

·         chau’r ddeiseb.    

 

5.16

P-04-565 Adfywio hen reilffyrdd segur at ddibenion hamdden.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:

 

·         Ofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a allai’r Ddeddf Teithio Byw (Cymru) 2013 ddarparu dull o fynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn y ddeiseb; ac

·         ysgrifennu at SUSTRANS i gael eu sylwadau.

 

5.17

P-04-590 Cyllid ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb ac, o ystyried bod cytundeb wedi bod o ran gwrthrych y ddeiseb, penderfynodd gau’r ddeiseb ar y sail, os bydd y sefyllfa’n newid yn y dyfodol, y gellir cyflwyno deiseb arall.

 

5.18

P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         Ysgrifennu at Gyngor Sir Caerdydd eto i gael gwybod beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf; ac

·         Gofyn i’r Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y datblygiadau.

 

5.19

P-04-573 Galwad ar Lywodraeth Cymru i Ymchwilio i’r System Lesddaliadau Preswyl yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr ohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd i ofyn am sylwadau gan y deisebydd cyn mynd ymlaen i gau’r ddeiseb. 

 

5.20

P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         Roi gwybod i’r deisebydd ynghylch cyngor y Gweinidog y dylai gysylltu â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) yn uniongyrchol; a 

·         Gofyn am sylwadau gan y deisebydd cyn mynd ymlaen i gau’r ddeiseb.