Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

2.

Trafodaeth o’r sesiwn dystiolaeth ar 9 Rhagfyr 2014 - P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2014 a chytunodd i:

 

·         anelu at ymweliad ag ysgol gyfagos i weld o lygad y ffynnon y gwaith a wnaed yno i greu acwsteg ardderchog i bawb yn yr ysgol;

·         ysgrifennu at y Sefydliad Acwsteg a Chymdeithas Ymgynghorwyr Sŵn yn gofyn am gael gweld eu canllawiau ar acwsteg - disgwylir iddynt fod ar gael yn gynnar eleni; a

·         cheisio gwybodaeth bellach am bolisi ac arfer yn Lloegr i weld beth y gellir ei ddysgu.

 

 

3.

Deisebau newydd

3.1

P-04-609 Cefnogwch Fusnesau Bach - Cefnogwch ein Strydoedd Mawr.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • dynnu sylw'r Gweinidog at sylwadau’r deisebwr, yn enwedig o ran y diffyg amlwg yn y wybodaeth a’r cymorth sydd ar gael a beth y gellid ei wneud i wella hyn;
  • gofyn am farn y Gweinidog ynghylch pa rôl y gallai Ffederasiwn y Busnesau Bach a’r Siambrau Masnach ei chwarae wrth ledaenu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael; ac
  • ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gofyn pa rôl y mae Awdurdodau Lleol yn ei chwarae o ran darparu gwybodaeth am gymorth i fusnesau bach.

 

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

4.1

P-04-440 : Dywedwch ‘Na’ i werthu asedau Ysbyty Bronllys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu eto at Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, gan geisio ymateb ganddo i lythyr y Cadeirydd dyddiedig 17 Hydref y llynedd a’i farn ar sylwadau diweddaraf y deisebydd.

 

4.2

P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         ysgrifennu eto at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn mynegi pryder mawr yn niffyg ymateb gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gyda chopïau’n mynd at Gadeirydd y Bwrdd Iechyd a Chadeirydd y Cyngor Iechyd Cymunedol; a

  • llunio papur i ddwyn ynghyd y wybodaeth am yr anawsterau o ran cael ymatebion gan Fyrddau Iechyd ar nifer o ddeisebau.

 

 

4.3

P-04-587 Tîm Cymorth pwrpasol ar gyfer dioddefwyr Enseffalomyelitis Myalgig (ME), Syndrom Blinder Cronig a Ffibromyalgia yn ne-ddwyrain Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog:

 

·         gan dynnu ei sylw at sylwadau pellach y deisebwyr, yn enwedig eu pryderon bod yr cyflyrau hyn yn cael eu hystyried yn rhai seicolegol yn hytrach na rhai niwrolegol; ac

·         i ofyn am ragor o wybodaeth am gynnydd tuag at sefydlu Grŵp Gweithredu Cymru Gyfan.

 

 

 

4.4

P-04-600 Deiseb i Achub y Gwasanaeth Meddygon Teulu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ei farn ar sylwadau’r deisebydd; a
  • gofyn i'r tîm clercio ganfod a oes gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y gallu i ystyried y materion a godwyd gan y ddeiseb.

 

Ar bwynt mwy cyffredinol, cytunodd y Pwyllgor y dylai Aelodau gael copïau o Flaenraglenni Gwaith Pwyllgorau eraill.

 

4.5

P-04-546 Magu anifeiliaid dan amodau annaturiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, yn gofyn am ei barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb.

 

4.6

P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus am ei farn ar sylwadau’r deisebydd, gan amlygu nifer o bwyntiau a wnaed yn ystod y drafodaeth.

 

4.7

P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         anfon sylwadau'r deisebydd at yr Athro Donaldson yn gofyn iddynt gael eu hystyried yn ei adolygiad; ac

·         ystyried y ddeiseb drachefn pan gyhoeddir adroddiad yr Athro Donaldson.

 

4.8

P-04-589 Lleihau Nifer y Cynghorwyr ac Aelodau Gweithredol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu eto at y deisebydd, yn gofyn am gadarnhad iddo dderbyn yr ohebiaeth wreiddiol ac a oes ganddo sylwadau i'w gwneud ar ohebiaeth y Gweinidog, ac yn ei hysbysu bod y Pwyllgor yn bwriadu cau'r ddeiseb.

 

4.9

P-04-591 Cyllid Teg ar gyfer Llywodraeth Leol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu eto at y deisebydd, gan ofyn am gadarnhad iddo dderbyn yr ohebiaeth wreiddiol ac a oes ganddo unrhyw sylwadau i'w gwneud ar ohebiaeth y Gweinidog, ac yn ei hysbysu bod y Pwyllgor yn bwriadu cau’r ddeiseb.

 

 

5.

Adolygiad o'r System Ddeisebau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor lythyr y Llywydd lle mae’n cynnig adolygiad o system ddeisebau’r Cynulliad a chytunwyd:

 

·         y dylai'r Pwyllgor wneud y gwaith y mae’r Llywydd yn gofyn amdano;

·         y cylch gorchwyl a awgrymir yn ei llythyr; a

·         dull cyffredinol y Pwyllgor ar gyfer yr adolygiad.