Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC, y dirprwywyd ar ei rhan gan Lyndsay Whittle AC, a Joyce Watson AC y dirprwywyd ar ei rhan gan Ann Jones AC.

 

2.

Trafod y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2014 - P-04-597 Diogelu dyfodol y Ddraig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i geisio hwyluso ffordd ymlaen sy’n cynnwys partneriaid fel:

 

·         Plant yng Nghymru

·         Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi;

·         Comisiynydd Plant Cymru, a

·         Chynrychiolydd o Gomisiwn y Cynulliad.

 

3.

Deisebau newydd

3.1

P-04-602 Personoleiddio Beddau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

·         dynnu sylw Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Angladdau a Phrofedigaeth at y ddeiseb; ac

·         anfon sylwadau’r deisebwyr at y Gweinidog, o gofio’r ymrwymiad a wnaeth i edrych ar y mater ymhellach.

 

3.2

P-04-603 Helpu babanod sy’n cael eu geni ar ôl 22 wythnos i oroesi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ei farn ar sylwadau’r deisebydd am sail ei deiseb ac, yn benodol, am ei farn ynghylch a ddylai cymorth meddygol gael ei roi i fabanod a anwyd yn fyw ac yn anadlu; a

·         gofyn am bapur briffio ymchwil sy’n cymharu’r modd yr ymdrinnir â’r materion hyn yng Nghymru a chenhedloedd eraill o fewn y DU.

 

 

3.3

P-04-604 Ynghylch diddymu Grwpiau Cyfeirio Cleifion â Diabetes a chanslo cyfarfodydd y Grŵp Cynllunio a Chyflawni Gwasanaethau Diabetig ym Mhowys.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn am ei farn ynghylch a yw amcanion y ddeiseb wedi’u cyflawni ai peidio.

 

3.4

P-04-605 Achub Ffordd Goedwig Cwmcarn Rhag Cael ei Chau am Gyfnod Amhenodol neu’n Barhaol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd. 

 

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

Dogfennau ategol:

4.1

P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd i aros i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y cynllun gan y Gweinidog, yn ôl ei addewid. 

 

4.2

P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn diolch iddi am y wybodaeth ddiweddaraf ac yn gofyn iddi roi gwybod i’r Pwyllgor am y datblygiadau, ac am yr ymateb gan yr Ysgrifennydd Gwladol. 

 

4.3

P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.

 

 

4.4

P-04-468 Pryderon am Ddiogelwch Ffordd A48 Cas-gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn tynnu ei sylw at lythyr y deisebwyr, ac yn benodol at eu pryderon ynghylch yr oedi cyn ymestyn y terfyn cyflymder o 30 milltir yr awr i groesi Pont Afon Gwy.

 

4.5

P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gweler y camau gweithredu y cytunwyd arnynt o dan eitem 4.7.

 

4.6

P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gweler y camau gweithredu y cytunwyd arnynt o dan eitem 4.7.

 

5.1

P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

i ysgrifennu at y Gweinidog yn mynegi siom nad oedd ei hateb yn ateb llawer o gwestiynau’r Pwyllgor, a gofyn iddi roi sylw i’r cwestiynau hyn yn awr fel mater o flaenoriaeth.

 

4.8

P-04-562 Canolfan Etifeddiaeth Caernarfon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at yr awdurdod lleol a CADW yn gofyn a fyddent yn barod i gwrdd â’r deisebwyr i drafod pa gyfleoedd pellach a allai fod ar gael i fwrw ymlaen â’r cysyniad o Ganolfan Treftadaeth yng Nghaernarfon; ac
  • ysgrifennu at Gyngor Tref Caernarfon yn gofyn am eu barn ar y ddeiseb. 

 

 

4.9

P-04-561 Hyrwyddo rygbi ar lawr gwlad yng Nghymru i annog pobl i gymryd rhan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

 

  • i ofyn am ymateb gan Undeb Rygbi Cymru; a
  • i gau’r ddeiseb, gan ei bod yn ymddangos bod prif fyrdwn y pryderon a oedd yn sail i’r ddeiseb ynglŷn â materion darlledu, nad ydynt wedi’u datganoli.

 

 

4.10

P-04-397 Cyflog Byw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

i aros am ganlyniad cyfarfod y Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ym mis Rhagfyr. 

 

4.11

P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

i aros am ganlyniadau’r adolygiad o’r sefyllfa ym mis Ebrill 2015.

 

4.12

P-04-518 Ciniawau ysgol am ddim yn gyffredinol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

i gau’r ddeiseb yng ngoleuni ymateb y Gweinidog a phenderfyniad y Pwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf.

 

4.13

P-04-593 Rhoi cyngor i ysgolion ar ymweliadau â Noah’s Ark Zoo Farm

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn tynnu sylw at y ddeiseb; a
  • chau’r ddeiseb. 

 

 

4.14

P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

i gau’r ddeiseb gan fod y Llywodraeth wedi gwneud ei safbwynt ar y ddeiseb yn glir, ac mae wedi cyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn. 

 

 

4.15

P-04-573 Galwad ar Lywodraeth Cymru i Ymchwilio i’r System Lesddaliadau Preswyl yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog ymateb i’r pwyntiau ychwanegol a godwyd gan y deisebydd, ac i’r materion a godwyd mewn gohebiaeth gan Byron Davies AC. 

 

4.16

P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ofyn i’r Gweinidog am gael gwybod am y cynnydd a wneir o ran penodi olynydd i Dr Andrew Goodall; a
  • gofyn am ymateb gan y byrddau iechyd nad ydynt wedi ymateb i lythyr gwreiddiol y Pwyllgor eto, gan gopïo’r llythyr i’r Gweinidog Iechyd. 

 

 

4.17

P-04-582 Newid Mawr ei Angen i’r Rheolau yn ein Hysgolion o ran Llau Pen a Nedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd, a phan fydd y sylwadau hyn ar gael
  • ystyried tynnu sylw’r Gweinidog at y wybodaeth yn yr ohebiaeth gan ‘Hairforce - Lice Assassins’ i gael ei sylwadau. 

 

 

 

4.18

P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

i ofyn i’r Gweinidog ymateb i sylwadau pellach y deisebydd.

 

4.19

P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.

 

 

4.20

P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd i dynnu sylw’r Gweinidog at sylwadau pellach y deisebydd. Yn benodol, at y gwahoddiadau i gwrdd â’r deisebwyr i drafod eu cynnig, ac i sicrhau bod y Gweinidog yn ymwybodol o’r digwyddiad yn y Senedd ar 11 Rhagfyr, sy’n rhan o’r broses o werthuso Cyfleoedd Gwirioneddol.