Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad View the meeting
transcript. |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd |
|
P-04-600 Deiseb i achub y gwasanaeth meddygon teulu Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y ddeiseb. |
|
P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y ddeiseb. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-541 Cefnogaeth i’r Mentrau Iaith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd: ·
i ysgrifennu
at Y Prif Weinidog, yn unol â chais y deisebwyr, yn gofyn iddo gynnal asesiad
annibynnol o’r adnoddau sydd eu hangen ar y Mentrau Iaith i’w gweithredu i’w
llawn botensial; ac ·
i aros am
ymateb y Prif Weinidog cyn ystyried a ddylid gwahodd y deisebwyr i fynychu
cyfarfod y Pwyllgor i egluro eu pryderon. |
|
P-04-487 Cynllun benthyg blaendal Llywodraeth Cymru i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach
gan y deisebwyr. |
|
P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn am
farn Plant yng Nghymru ar beth maent yn bwriadu ei wneud i ddatblygu’r gwaith
yn y maes hwn o dan y Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd; a ·
gofyn i’r
Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi pa gamau gweithredu sydd wedi’u cymryd o
ran argymhellion o Adroddiad Terfynol yr Uned Gyfranogi. |
|
P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
|
|
P-04-573 Galwad ar Lywodraeth Cymru i Ymchwilio i’r System Lesddaliadau Preswyl yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog
ymateb i sylwadau’r deisebwyr, yn arbennig ynghylch effaith bosibl ar niferoedd
llai o aelwydydd a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ganlyniad
adroddiad LEASE. |
|
P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i drefnu sesiwn
dystiolaeth lafar mewn lleoliad anffurfiol gyda’r Ddraig Ffynci, y Comisiynydd
Plant, Plant yng Nghymru a chynrychiolydd o Gomisiwn y Cynulliad i geisio gweld
a ellir canfod ffordd i ddarparu llwyfan cynrychioliadol cenedlaethol parhaus
ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru. |
|
P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn am
sylwadau pellach gan y deisebydd; a ·
gofyn am
wybodaeth bellach gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar
oblygiadau’r trefniadau cyllideb newydd. |
|
P-04-507 Mesur iawnderau yng Nghymru ar gyfer menywod a merched: ymlynu wrth y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn Erbyn Menywod (CEDAW) Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb o ystyried
yr anallu i ddatblygu’r ddeiseb gyda’r prif ddeisebydd. |
|
P-04-397 Cyflog Byw Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn am
sylwadau pellach gan y deisebydd; a ·
ysgrifennu
at y Gweinidog yn gofyn am sicrwydd y bydd y mater yn cael ei drafod yng
nghyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ym mis Rhagfyr. |
|
P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i anfon sylwadau pellach a
gwahoddiad y deisebydd ymlaen at y Gweinidog a’i swyddogion a gofyn am gael gwybod
y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau. |
|
P-04-533 Cynllunio Amgylcheddol ar gyfer Safleoedd Tyrbinau Gwynt ar Raddfa Fach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog
Cyfoeth Naturiol newydd am ei farn am sylwadau’r deisebydd. |
|
P-04-537 Plannu Coed i Leihau Llifogydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach
gan y deisebwyr. |
|
P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn am
farn y Gweinidog am sylwadau’r deisebwyr;
·
ysgrifennu
at Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd gan roi sylw i’r ddeiseb;
ac ·
anelu at
gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad fel y gellir trafod y mater yn y Cyfarfod
Llawn yn unol â chais y deisebwyr. |
|
P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach
gan y deisebydd. |
|
P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn am y
wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog am ei farn am y sefyllfa bresennol; ac
yna ·
aros am
ganlyniadau’r adolygiad am y sefyllfa ym mis Ebrill 2015. |
|
P-04-518 Ciniawau ysgol am ddim yn gyffredinol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn am
farn bellach gan y Gweinidog yn sgil sylwadau’r deisebydd; a ·
gwneud
penderfyniad ynghylch cau’r ddeiseb. |
|
P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach
gan y deisebydd. |
|
P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
|
|
P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach
gan y deisebydd. |
|
P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Bwrdd Iechyd
ymateb i’r pwyntiau a wnaed ar ran y deisebwyr. |
|
P-04-552 Diogelu Plant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach
gan y deisebydd. |
|
P-04-500 Galw am Reoleiddio Sefydliadau Lles Anifeiliaid yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb pellach y
Gweinidog. |
|
P-04-535 Achubwch ein Gorsafoedd Tân Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn am
sylwadau pellach gan y deisebwyr; a ·
gofyn am ymateb
am ohebiaeth y Pwyllgor sydd heb ei hateb. |
|
P-04-554 Polisi swyddogol gan Lywodraeth Cymru sy’n gwahardd sefydliadau hyfforddi nad ydynt yn dryloyw rhag gweithio mewn cyrff cyhoeddus. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer gweddill y cyfarfod Cofnodion: The
motion was agreed. |
|
P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog a’r
Bwrdd Iechyd ystyried ac ymateb i farn y deisebwyr a nodwyd yn eu sylwadau, yn
enwedig mewn perthynas â’r adroddiad a gynigiwyd gan yr Athro Marcus Longley. |
|
Gweithdrefnau’r Pwyllgor ar gyfer Trafod Deisebau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor weithdrefnau ar gyfer ystyried deisebau. |